Ail noson o anhrefn yn Nulyn ger gwesty i geiswyr lloches

Dulyn PA

Mae 17 o bobl wedi cael eu cyhuddo ar ôl ail noson o anhrefn ger gwesty yng ngorllewin Dulyn sy'n gartref i geiswyr lloches.

Cynhaliwyd trydydd noson o wrthdystio ger gwesty Citywest ar ôl ymosodiad rhywiol honedig ar ferch 10 oed yn agos i'r gwesty yn oriau mân fore dydd Llun.

Fe wnaeth dyn 26 oed, nad oes modd ei enwi o achos cyfyngiadau cyfreithiol, ymddangos yn y llys ddydd Mawrth wedi'i gyhuddo o'r ymosodiad honedig.

Cafodd cyfanswm o 24 o bobl eu harestio ddydd Mercher yn dilyn gwrthdaro rhwng protestwyr a heddlu Iwerddon, a gafodd eu taro gan dân gwyllt, cerrig a rwbel.

Dywedodd llefarydd ar ran y Gardai fod pump o bobl ifanc gafodd eu harestio yn ystod yr anhrefn wedi cael eu rhyddhau, ac fe fyddant yn cael eu trin o dan Raglen Dargyfeirio Ieuenctid y wlad.

Cafodd dau ddyn arall oedd wedi eu harestio eu rhyddhau'n ddi-gyhuddiad tra bod ffeil yn cael ei pharatoi ar gyfer Cyfarwyddwr yr Erlyniadau Cyhoeddus.

Anafwyd tri aelod o wasanaeth heddlu Iwerddon, An Garda Síochána, yn yr anhrefn, gyda dau swyddog yn cael eu cludo i'r ysbyty.

Cadwodd y Gardai 15 o sgwteri a beiciau trydan, ac mae ymgyrch blismona a diogelwch yn parhau ar waith ger gwesty Citywest.

Llun: PA

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.