Y Taliban yn 'erlyn eu gwrthwynebwyr', medd y Cenhedloedd Unedig
Mae’r Taliban yn cynnal ymweliadau o ddrws-i-ddrws wrth geisio dod o hyd i wrthwynebwyr a’u teuluoedd, yn ôl asesiad gan y Cenhedloedd Unedig.
Wedi iddynt gipio grym yn Afghanistan ar ôl bron i 20 mlynedd, fe wnaeth y grŵp eithafol gyflwyno addewid o “bardwn cyffredinol” i’r rhai wnaeth weithio gyda gwledydd NATO, megis yr UDA a DU.
Er gwaethaf hynny, mae miloedd yn parhau i geisio ffoi o’r wlad, gyda maes awyr Kabul yn wynebu anrhefn llwyr.
Mae adroddiad gan y Cenhedloedd Unedig yn cadarnhau pryderon y Gorllewin, medd Al Jazeera.
Dywedodd cyfarwyddwr y grŵp sy’n goruchwylio’r adroddiad, Christian Nellemann: “Maen nhw’n targedu teuluoedd y rhai sy’n gwrthod rhoi’r eu hunain fyny, ac yn erlyn ac yn cosbi eu teuluoedd ‘yn unol â chyfraith Sharia’.
“Rydyn ni’n disgwyl i unigolion a arferai weithio gyda lluoedd Nato a’r UDA a’u cynghreiriaid, ynghyd ag aelodau eu teulu i wynebu artaith a dienyddiad.”
Darllenwch y stori’n llawn yma.