Carchar i ddyn am ymosod ar dad a mab mewn gardd
Mae dyn 34 oed o Gastell-nedd Port Talbot wedi ei garcharu ar ôl iddo ymosod ar dad a mab nad oedd yn eu hadnabod yn eu gardd.
Clywodd y llys fod Robin Griffiths o Resolfen wedi anafu llygad yr oedolyn, a bod yr anaf yn dal i achosi trafferthion wrth iddo geisio symud ei lygad.
Mae e wedi gorfod cael llawdriniaeth ers yr ymosodiad.
Ar ôl ymosod ar y tad, fe darodd Griffiths y mab wrth iddo geisio ymyrryd.
Fis Medi, plediodd Robin Griffiths yn euog i gyhuddiad o ymosod drwy guro, ac o achosi niwed corfforol difrifol yn anfwriadol.
Mae e bellach wedi ei ddedfrydu i garchar am 20 mis.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Danielle Thorne: “Dylai pawb deimlo'n ddiogel oddi mewn i'w cartref neu eu gardd.
“Does dim lle i bobl dreisgar fel Robin Griffiths ar ein strydoedd. Dylai felly dalu'r pris drwy dreulio cyfnod mewn carchar.”