Achub dau ddringwr oddi ar glogwyn ar Ynys Cybi

Llun: Bad Achub RNLI Caergybi
Bad Achub Caergybi - achub hydref 25

Roedd yn rhaid i’r bad achub oleuo clogwyni Ynys Cybi mewn ymgyrch i achub dau ddringwr oedd yn sownd ar y graig.

Cafodd criw bad achub RNLI Caergybi eu galw i gynorthwyo bad achub Bae Trearddur am 18:15 nos Sadwrn 18 Hydref.

Roeddent yn ymateb i alwad gan ddau ddringwr oedd yn cael trafferthion ar glogwyni ger adeilad Tŵr Elin, ger Ynys Lawd.

Gyda'r golau dydd yn dirywio, nid oedd y dringwyr yn gallu symud i fyny nac i lawr y graig bellach.

Image
Bad achub
Roedd yn rhaid i wirfoddolwyr Bad Achub Caergybi defnyddio goleuadau ALB i oleuo'r clogwyni. Llun: Bad Achub RNLI Caergybi

Gydag un dringwr yn agos i waelod y clogwyn ac un uwch i fyny’r graig, fe wnaeth Bad Achub Caergybi ddefnyddio goleuadau ALB i oleuo’r clogwyni er mwyn i dimau achub clogwyni gwirfoddol gyrraedd y dringwyr.

Fe gymerodd dros ddwy awr i’r gwirfoddolwyr gyrraedd y ddau berson a’u gwneud yn ddiogel ar frig y clogwyn. 

Nid oedd y dringwyr wedi’u hanafu, a thoc wedi 21.00 fe wnaeth y bad achub ddychwelyd i’r orsaf yng Nghaergybi.

“Dyma oedd y galwad cyntaf ble’r oeddem wedi defnyddio ein goleuadau ALB newydd, ac roeddent yn help enfawr ar y noson, gan gynorthwyo’r ymgyrch lwyddiannus i achub y ddau unigolyn,” meddai llefarydd ar ran Bad Achub Caergybi.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.