Hacwyr 'wedi dwyn cannoedd o ddogfennau milwrol sensitif'
Mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn yn ymchwilio i honiadau bod hacwyr o Rwsia wedi dwyn cannoedd o ddogfennau milwrol sensitif.
Yn ôl adroddiad The Mail on Sunday, mae’r ffeiliau’n cynnwys manylion am wyth o ganolfannau yr Awyrlu Brenhinol (RAF) a’r Llynges Frenhinol, yn ogystal ag enwau a chyfeiriadau e-bost gweithwyr y Weinyddiaeth Amddiffyn.
Fe gafodd y seiberdroseddwyr fynediad i’r storfa o ffeiliau trwy hacio cwmni cynnal a chadw o’r enw Dodd Group, meddai’r papur newydd.
Dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Amddiffyn (MoD): “Rydym yn cymryd ymagwedd gadarn a rhagweithiol at fygythiadau seiber a allai beri risgiau i’r budd cenedlaethol.
“Rydym yn ymchwilio i honiadau bod gwybodaeth sy’n ymwneud â’r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi’i chyhoeddi ar y ‘we dywyll’.
“Er mwyn diogelu gwybodaeth weithredol sensitif, ni fyddwn yn gwneud unrhyw sylwadau pellach.”
Wrth gadarnhau “digwyddiad seiber”, dywedodd llefarydd ar ran Dodd Group wrth y Mail on Sunday fod “rywfaint o ddata” wedi’i ddwyn a bod y cwmni wedi “diogelu ac adfer ein systemau”.
Yn ôl y papur newydd, mae’r dogfennau a ollyngwyd yn cynnwys gwybodaeth am nifer o ganolfannau sensitif yr RAF a’r Llynges, gan gynnwys RAF Lakenheath yn Suffolk, lle mae jetiau F-35 Llu Awyr yr Unol Daleithiau wedi’u lleoli.
Mae canolfannau eraill yn cynnwys RAF Portreath – gorsaf radar gyfrinachol sy’n rhan o rwydwaith amddiffyn awyr NATO – ac RAF Predannack, sydd bellach yn gartref i Hwb Dronau Cenedlaethol y DU.
Mae ffeiliau eraill a ollyngwyd yn cynnwys deunydd sy’n gysylltiedig ag RAF Mildenhall, HMS Raleigh, HMS Drake ac RAF St Mawgan.
Nid yw un o’r canolfannau a enwyd hyd yma yng Nghymru.