Caernarfon: Arestiadau ar ôl pryderon am bobl ifanc yn gyrru mewn modd gwrthgymdeithasol
Mae’r heddlu’n dweud eu bod wedi arestio unigolion am yrru dan ddylanwad alcohol a chyffuriau, fel rhan o ymgyrch i atal gyrru gwrthgymdeithasol yng Nghaernarfon.
Dywedodd Heddlu’r Gogledd eu bod wedi derbyn nifer o “bryderon am bobl ifanc yn gyrru’n wrthgymdeithasol, yn ogystal â cherbydau’n teithio’n gyflymach na’r terfyn cyflymder” yn y dref.
Cafodd un gyrrwr ei ddal yn teithio 48mya mewn parth 20mya ar briffordd yr A4871 i mewn i’r dref o gyfeiriad y de.
Fe wnaeth yr heddlu hefyd gyhuddo gyrwyr o yrru’n ddiofal, heb yswiriant, ac o ddefnyddio ffonau symudol wrth yrru.
Roedd yr heddlu wedi gweithredu ar ddyddiau Sadwrn, 27 Medi ac 18 Hydref, i fynd i’r afael â’r broblem, meddai’r heddlu.
“Rydym yn gwerthfawrogi’r pryderon a godwyd gan aelodau’r cyhoedd ac am eich sicrhau ein bod yn cymryd y mater o ddifrif,” meddai’r heddlu.
“Rydym am sicrhau cymuned Caernarfon y bydd swyddogion yn canolbwyntio ar y pryderon rydych chi wedi’u codi 24/7, a byddwn yn gweithredu eto yn y dyfodol.”