Ed Miliband yn herio Jeremy Clarkson i sefyll yn ei erbyn

Ed Miliband a Jeremy Clarkson

Mae Ed Miliband wedi herio'r cyflwynydd teledu Jeremy Clarkson i sefyll y ei erbyn yn etholaeth Doncaster North.

Fe wnaeth Clarkson, a gafodd ei eni a’i fagu yn Doncaster, awgrymu yn ddiweddar ar y cyfryngau cymdeithasol y gallai sefyll yn y sedd gyda'r nod o’i gipio oddi ar y Blaid Lafur.

Ysgrifennodd y cyn-gyflwynydd Top Gear a chyflwynydd Clarkson’s Farm ar y wefan cyfryngau cymdeithasol X: “Trigolion Doncaster North. Ydych chi'n hapus gyda'ch AS?

“A fyddech chi'n hoffi pe bai rhywun o'ch cwr chi o'r coed yn ei ddisodli?”

Fe gafodd Mr Miliband, sydd wedi cynrychioli Doncaster North ers 2005, ei holi am yr her bosibl ar Sky News.

Atebodd yr Ysgrifennydd Ynni: “Rwy’n croesawu pawb i sefyll. Gadewch i ni weld beth sy’n digwydd.

“Rwy’n credu ei fod yn fath o ymgeisydd hirdymor am fy sedd.

“Fe wnaeth o ddweud yn 2013 ei fod yn mynd i ymgeisio am fy sedd.

“Felly mae’n fater i bobl eraill benderfynu a ydyn nhw am sefyll am y Senedd, gan gynnwys yn fy sedd i.”

Fe enillodd Mr Miliband Doncaster North gyda mwyafrif o fwy na 9,100 yn yr etholiad cyffredinol y llynedd.

Ond mae arolygon barn yn awgrymu y gallai wynebu her gan Reform UK pe bai etholiad yn cael ei gynnal ar hyn o bryd.

Mae Clarkson hefyd wedi beirniadu arweinydd Reform UK, Nigel Farage.

Wrth ysgrifennu ym mhapur newydd The Sun, awgrymodd nad oedd Mr Farage yn gwneud synnwyr wrth siarad am yr economi.

Ychwanegodd Clarkson: “Ond cyn y gall unrhyw un gwestiynu ei resymeg, mae’n rhuthro’n ôl i’w le diogel ac yn dechrau cynddeiriogi pobl am gychod bach.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.