AS Ceidwadol yn mynd at yr heddlu dros fideo 'deepfake'

George Freeman

Mae un o aelodau seneddol y Ceidwadwyr wedi dweud iddo orfod mynd at yr heddlu ar ôl cael gwybod am fideo AI ffug oedd yn ei ddangos yn datgan ei gefnogaeth i Reform UK. 

Dywedodd George Freeman, sydd yn AS dros Ganol Norfolk yn Lloegr, nad oes ganddo “unrhyw fwriad i ymuno â Reform na chwaith unrhyw blaid arall”.

Mae fideo ‘deepfake’ ohono wedi ei rannu’n eang ar y cyfryngau cymdeithasol. 

Yn ystod y fideo mae’n ymddangos fel petai’r gwleidydd yn cyhoeddi ei fod yn ymuno â phlaid Nigel Farage. 

Mae'r fideo ffug ohono yn dweud bod y "blaid Geidwadol wedi colli ei ffordd.” 

Image
Y fideo ffug
Rhan o'r fideo ffug

Does dim gwirionedd i’r hyn sy’n ymddangos yn y fideo, medd Mr Freeman, ac mae wedi mynd at yr heddlu gyda’i bryderon.

“Mae’r fideo… wedi’i greu heb i mi gael gwybod na rhoi fy nghaniatâd, ac yn defnyddio fy nelwedd a’m llais heb ganiatâd," meddai.

Ychwanegodd y dylai gweithred o’r fath fod yn “drosedd.” 

Mae Mr Freeman wedi bod yn AS Ceidwadol ers 2010. Roedd wedi treulio cyfnod fel Gweinidog Gwladol yn Adran Gwyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg Llywodraeth y DU. 

Mae Heddlu Norfolk wedi cael cais am ymateb.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.