Miloedd yn gorymdeithio i wrthwynebu cynlluniau ID digidol

Protest ID

Mae miloedd o brotestwyr wedi gorymdeithio drwy ganol Llundain i ddangos eu gwrthwynebiad i gynlluniau Llywodraeth y DU i gyflwyno ID digidol.

Roedd y protestwyr yn canu ac yn chwifio baneri ar hyd llwybr y brotest o Marble Arch i Whitehall brynhawn Sadwrn, a hynny dan oruchwiliaeth yr heddlu.

Fe wnaeth y Prif Weinidog gyhoeddi ym mis Medi y byddai system ID digidol yn cael ei chyflwyno yn 2029.

Byddai'n orfodol i bobl sy'n gweithio yn y DU fel rhan o ymgais i fynd i'r afael â mudo anghyfreithlon, meddai.

Cerddodd y cyn AS Ceidwadol Andrew Bridgen, a gafodd ei ddiarddel o'r Blaid Geidwadol yn 2023 am gymharu brechlynnau Covid-19 â'r Holocost, wrth flaen yr orymdaith.

Dywedodd hysbyseb ar gyfer y brotest ar wefan y trefnwyr, Mass Non-Compliance, "os ydych chi'n derbyn ID digidol nawr, efallai mai dyna'r dewis go iawn olaf y byddwch chi yn ei wneud erioed".

Mae arweinydd Reform UK, Nigel Farage, wedi dweud ei fod yn “gwrthwynebu’n gryf”.

Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol hefyd wedi dweud na fyddan nhw’n cefnogi ID digidol os yw pobl yn cael eu “gorfodi i drosglwyddo eu data preifat dim ond i fynd ati i fyw eu bywydau bob dydd”.

Mae arweinydd y Blaid Geidwadol, Kemi Badenoch, hefyd wedi dweud na fydd yn gwneud unrhyw beth i atal mudo anghyfreithlon.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.