Dyn wedi boddi yn Llŷn wrth achub merch ei ffrind

Mae cwest wedi clywed fod dyn 47 oed wedi boddi yn Llŷn ar ôl mynd i drafferthion wrth geisio achub merch ei ffrind.
Bu farw Stephen Hulsmeier o Sir Amwythig ym Mhorth Neigwl ger Abersoch ar 6 Awst, er gwaethaf ymdrechion Gwylwyr y Glannau i'w achub.
Dywedodd yr uwch grwner dros dro, Kate Sutherland, fod merch i ffrind Mr Hulsmeier wedi mynd i drafferthion yn y môr.
Er iddo lwyddo i achub y ferch, fe aeth yntau fewn i drafferthion yn y môr ei hun.
Yn ôl North Wales Live, cafodd Mr Hulsmeier, oedd yn beiriannydd awyrennau, ei lusgo o'r môr ond roedd yn anymwybodol.
Fe benderfynodd rhai o'r syrffwyr eraill i ddefnyddio eu byrddau i orchuddio’r dyn wrth i’r gwasanaeth brys geisio achub ei fywyd am dros i awr.
Mae'r cwest wedi ei ohirio tra bod yr ymchwiliad i'w farwolaeth yn parhau.
Darllenwch y stori'n llawn yma.