Blaenau Ffestiniog: Carcharu dyn a ymosododd ar ei dad
Mae dyn a ymosododd ddwywaith ar ei dad bregus ym Mlaenau Ffestiniog yng Ngwynedd wedi ei garcharu am 15 mis.
Fe gafodd Martin Kusnierik, 36 oed, ei ddedfrydu gan Lys y Goron Caernarfon ddydd Mercher.
Roedd eisoes wedi ei gael yn euog o ymosodiad gan achosi niwed corfforol ac ymosodiad trwy guro.
Ym mis Chwefror eleni, roedd Kusnierik i fod yn gofalu am ei dad bregus pan wnaeth ei ddal i lawr a phwyso ei benelin i frest ei dad gyda grym.
Ar achlysur arall, trawodd y dyn 36 oed ei dad gan achosi iddo ochneidio mewn poen.
Yn ogystal â dedfryd o garchar fe gafodd hefyd orchymyn pum mlynedd i gadw draw rhag y dioddefwr.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Peter Hooker: “Ymosododd Kusnierik ar ddyn oedrannus bregus pan ddylai fod wedi bod yno i ofalu amdano.
“Yna ceisiodd amddiffyn ei weithredoedd yn lle cyfaddef a dangos edifeirwch am yr ymosodiadau.
“Byddwn yn parhau i wneud popeth yn ein gallu i amddiffyn pobl fregus rhag y rhai sy'n ceisio achosi niwed iddynt a dod â throseddwyr gerbron y llys.”