Cynnydd yn nifer y bobl sy'n marw o ganlyniad i gyffuriau yng Nghymru
Fe wnaeth nifer y bobl a fu farw o ganlyniad i gyffuriau yng Nghymru gynyddu y llynedd.
Bu farw 417 o bobl yng Nghymru y llynedd mewn achosion oedd yn gysylltiedig â defnyddio cyffuriau, yn ôl Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Mae hynny’n gynnydd ar y 377 a fu farw’r flwyddyn flaenorol, sef 2023.
5,565 oedd y ffigwr ar gyfer nifer y bobl a fu farw oherwydd cyffuriau yng Nghymru a Lloegr gyda’i gilydd yn 2024.
Ymhlith yr rheini, bu farw 195 o bobl o ganlyniad i’w defnydd o’r opioid nitazenes.
Mae hynny bron bedair gwaith yn fwy na’r flwyddyn flaenorol, pan fu farw 52 o bobl o’u herwydd.
Mae’r cyffur yn hynod beryglus, ac fe all fod bron 100 gwaith yn gryfach na heroin.
Mae’r elusen Turning Point wedi galw am fwy o fynediad at feddyginiaethau a all helpu mynd i’r afael â gorddefnydd o gyffuriau opioid.
Dywedodd eu prif swyddog gweithredol, Clare Taylor: “Byddem ni’n hoffi gweld ymdrechion parhaus i gynyddu argaeledd naloxone — meddyginiaeth sy’n achub bywydau ac sy’n gallu gwrthdroi effeithiau gorddos o gyffur opioid.”
‘Cynnydd parhaus’
Cofnodwyd cynnydd o 2.1% yn nifer y bobl a fu farw o ganlyniad i gyffuriau yn y Deyrnas Unedig o gymharu â 2023.
Dyma’r nifer uchaf o farwolaethau sy’n gysylltiedig â chyffuriau ers i gofnodion ddechrau yn 1993.
Dywedodd David Mais o Swyddfa Ystadegau Gwladol eu bod yn gweld “cynnydd bach ond parhaus” yn nifer y bobl sy’n marw o ganlyniad i’w defnydd o gyffuriau.
Ychwanegodd mai cyffuriau opioid ac opiate fel heroin a morffin yw’r rhai sy’n cyfrannu fwyaf at y cynnydd ar gofrestri marwolaeth.
Cynyddodd nifer y marwolaethau a oedd yn gysylltiedig â chocên 14.4% o gymharu â’r flwyddyn gynt, gyda 1,279 o bobl yn marw o’u herwydd yn 2024.
Dywedodd Swyddfa Ystadegau Gwladol mai canabis oedd y cyffur a ddefnyddiwyd fwyaf yng Nghymru a Lloegr, gyda chocên yn ail.