Caerdydd: Apêl wedi i ddyn dioddef anafiadau i'w ben mewn ymosodiad
Mae Heddlu’r De wedi dweud eu bod yn apelio am lygad-dystion ar ôl i ddyn dioddef anafiadau i’w ben yn dilyn ymosodiad yn y brifddinas.
Cafodd dyn 35 oed ei ddyrnu i’r llawr gan ddyn arall ar ôl croesi’r ffordd y tu allan i Garej Wessex ar Ffordd Penarth, yn ardal Trelluest (Grangetown), fis diwethaf.
Y gred yw ei fod wedi cael ei dargedu ar ôl i’r ymosodwr golli arno tra'n gyrru (road rage).
Roedd yn rhaid i'r dioddefwr dderbyn triniaeth yn yr ysbyty ar ôl dioddef anafiadau i’w ben yn dilyn yr ymosodiad a ddigwyddodd am 11.00 ar 23 Medi.
Fe wnaeth unigolion helpu’r dyn ac mae Heddlu De Cymru bellach yn apelio arnynt i gysylltu â’r llu.
Roedd y dyn wedi cael cymorth gan bobl o garej cyfagos, yn ogystal â menyw oedd o bosib yn gwisgo gwisg y Post Brenhinol.
Mae’r dyn a ymosododd ar y dyn arall wedi’i ddisgrifio fel dyn “o hil gymysg gydag acen Gymreig.”
Roedd menyw oedd a gwallt byr oedd wedi’i lliwio’n goch neu oren gydag ef.
Mae ymholiadau’r heddlu’n parhau.