Arian ychwanegol i Gymru yn cythruddo Llywodraeth yr Alban
Mae penderfyniad Llywodraeth y DU i roi arian ychwanegol i Gymru wedi cythruddo Llywodraeth yr Alban.
Cyhoeddwyd ddydd Sul y byddai Cymru yn derbyn £547m ychwanegol dros dair blynedd fel rhan o Gronfa Twf Lleol fyddai yn cymryd lle arian a arferai ddod o'r Undeb Ewropeaidd.
Bydd y penderfyniadau ynghylch sut bydd yr arian yn cael ei wario hefyd yn dychwelyd i Gymru o San Steffan.
Ond mae Llywodraeth yr Alban wedi galw am “eglurder brys” ynglŷn â pham nad ydyn nhw wedi cael yr un arian gan Lywodraeth y DU.
Dywedodd Ysgrifennydd Cyllidol yr Alban Shona Robison nad oedd yr Alban yn cael ei haeddiant.
“Mae angen eglurder brys ar weinidogion yn Holyrood ynghylch a fydd y Gronfa Twf Lleol a gyhoeddwyd ar gyfer Cymru'r wythnos hon - i’w ddosbarthu yn uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru - yn cael ei efelychu yn yr Alban,” meddai.
“Dyw’r Alban heb gael ei haeddiantyn y gorffennol, a rhaid inni beidio â chael ein gadael ar ôl gan gyllideb Llywodraeth y DU.
“Ac oni bai bod y Canghellor yn newid cyfeiriad, bydd yn gliriach nag erioed fod angen annibyniaeth arnom i gefnogi ein gwasanaethau cyhoeddus a darparu economi sy’n gweithio i bawb.”
Mae Llywodraeth y DU wedi cael cais am ymateb.
‘Cytundeb’
Dywedodd Llywodraeth Cymru wrth gyhoeddi’r Gronfa Twf Lleol eu bod nhw’n bwriadu ymgynghori ar y ffordd orau o ddefnyddio'r arian ychwanegol.
“Rwy’n falch iawn, yn dilyn cytundeb gyda Llywodraeth y DU, y bydd y penderfyniadau am y blaenoriaethau ar gyfer y gronfa hon yn cael eu gwneud yma gan Lywodraeth Cymru,” meddai’r Prif Weinidog Eluned Morgan.
“Rydym yn awyddus i weld ffocws cadarn ar seilwaith gwyrdd, effeithlonrwydd ynni ac adfywio lleol. Byddwn yn annog buddsoddi mewn ynni adnewyddadwy, trafnidiaeth carbon isel, a threftadaeth.
“Bydd twristiaeth yn cael ei chefnogi mewn ffordd sy’n helpu ein cymunedau i ffynnu.”