Alan Knill i ymuno â thîm hyfforddi Cymru
Mae hyfforddwr tîm pêl-droed Cymru, Robert Page, wedi cadarnhau y bydd Alan Knill yn ymuno gyda staff hyfforddi’r garfan.
Bydd Knill yn ymuno â'r tîm am weddill ymgyrch ragbrofol Cwpan y Byd FIFA 2022.
Roedd Knill, sy’n gyn-chwaraewr i Gymru, yn hyfforddwr cynorthwyol gyda Sheffield United yn ddiweddar, yn ystod siwrnai’r clwb o Gynghrair Un i’r Uwch Gynghrair.
Dywedodd Alan Knill: “Fy rôl yw cefnogi Rob, i gynorthwyo ar y maes hyfforddi ac i ddadansoddi’r gwrthwynebwyr. Os fedrai helpu i barhau i adeiladu ar lwyddiant ein tîm cenedlaethol, fe fyddai’n hapus iawn”.
Wrth gyhoeddi’r penodiad, dywedodd Robert Page: “Dwi wrth fy modd fod Alan yn ymuno gyda ni ar gyfer gweddill ymgyrch gymhwyso Cwpan y Byd”.
Fe fydd Knill yn ymuno â’r garfan hyfforddi ar gyfer y gwersyll rhyngwladol fis nesaf lle fydd Cymru’n wynebu’r Ffindir yn Helsinki.
Wedyn, bydd Cymru yn parhau gyda’u hymgyrch i gyrraedd Cwpan y Byd FIFA 2022 gan chwarae yn erbyn Belarws yn Kazan cyn wynebu Estonia yng Nghaerdydd.
Llun: Ingy the Wingy (drwy Wikimedia Commons)