
'Pwysig': Cyngerdd yn Wrecsam i ddathlu'r cyfansoddwr Grace Williams
Bydd feiolinydd byd-enwog yn perfformio yn Wrecsam yn y gobaith o roi llwyfan i gerddoriaeth cyfansoddwraig Gymreig sydd wedi’i “hanghofio".
Fe fydd Madeleine Mitchell yn perfformio ar y cyd gyda Cherddorfa Symffoni Wrecsam er cof am y cerddor Grace Williams mewn cyngerdd arbennig fis nesa’.
Wedi’i geni yn Y Barri yng Nghaerdydd, mae Grace Williams yn cael ei hystyried fel un o gyfansoddwyr benywaidd mwyaf arwyddocaol Cymru.
Ar ôl ennill ysgoloriaeth i astudio ym Mhrifysgol Caerdydd yn 1923, dair blynedd yn ddiweddarach cafodd ei derbyn i astudio yn y Coleg Cerdd Frenhinol yn Llundain.
Roedd hi’n cael ei hadnabod fel unawdydd a phianydd dawnus, ac astudiodd dan y cyfansoddwr uchel ei barch, Ralph Vaughan Williams.
Bu farw yn 70 oed, yn 1977.

'Dathlu'
Mae’r cerddor Madeleine Mitchell bellach yn benderfynol o ddathlu gwaith Grace Williams wrth iddi gamu i’r llwyfan ar gyfer Cyngerdd Cofio yn Neuadd William Aston ar 9 Tachwedd.
Yn wreiddiol o Lundain, mae Madeleine wedi ei chanmol am ei “chyfraniad sylweddol i gerddoriaeth Gymreig,” wedi iddi ennill Gwobr Stuart Burrows gan Gymdeithas Cerddoriaeth Cymru yn 2024.
Fe ddaeth yn angerddol dros gerddoriaeth y Gymraes wedi iddi ddod o hyd i sgôr llawysgrif Sonata i’r Feiolin Grace Williams.

“Ar y clawr roedd hi wedi ysgrifennu ‘mae’r ail symudiad yn werth ei berfformio, ond nid yw’r cyntaf a’r trydydd yn ddigon da’, ond roeddwn i’n meddwl bod y cyfan yn werth ei berfformio felly cefais gopi," meddai Madeleine Mitchell.
“Mi wnes i berfformio’r sonata yng nghynhadledd ryngwladol gyntaf Gwaith Menywod mewn Cerddoriaeth ym Mangor, a drefnwyd gan Rhiannon Mathias. Roedd yn llwyddiant mawr ac roedd pawb yn meddwl y dylwn ei recordio.
“Wedyn penderfynais ymchwilio i weld pa gerddoriaeth arall oedd ganddi. Roedd llawer o gerddoriaeth siambr Grace Williams, a ddarganfyddais trwy ymchwilio yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, heb ei chyhoeddi na’i recordio.
“Felly cynhyrchais albwm o Gerddoriaeth Siambr Grace Williams gyda fy Ensemble Siambr Llundain ar gyfer Naxos mewn cydweithrediad â Chymdeithas Gerddoriaeth Prydain – bu’r albwm yn llwyddiant ysgubol gan gyrraedd rhif dau yn y Siartiau Clasurol.”
Yn dilyn hynny fe gafodd Madeleine ei gwahodd i berfformio’r Concerto i’r Feiolin Grace Williams gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC – ac mae bellach yn falch o “ddod â’r concerto hwn i ogledd Cymru,” meddai.
'Pwysig iawn'
Mae arweinydd Cerddorfa Symffoni Wrecsam, Bedwyn Lloyd Phillips hefyd wedi bod yn frwd dros gerddoriaeth Grace Williams, a hynny er ei ddyddiau yn y brifysgol.
“Mae dod â cherddoriaeth Grace Williams i bobl Cymru yn genhadaeth bwysig i mi, ac mae’n bwysig iawn i mi bod cerddorfeydd Cymreig yn perchnogi cerddoriaeth un o gyfansoddwyr gorau’r 20fed ganrif, sy’n hanu o’r genedl gerddorol hon," meddai.
“Wrth baru gweithiau Grace Williams gyda’r hyn a ystyrir gan lawer fel y symffoni orau gan gyfansoddwr Prydeinig – Symffoni Gyntaf Syr Edward Elgar – rwy’n edrych ymlaen i’r gynulleidfa glywed cerddoriaeth cyfansoddwraig nad yw wedi cael sylw teilwng ochr yn ochr â gweithiau’r cyfansoddwyr mwyaf enwog.”
Mae Cerddorfa Symffoni Wrecsam yn gerddorfa gymunedol flaenllaw gyda thua 60–70 o aelodau.
Dywedodd Matthew Ellis, Cadeirydd y Gerddorfa: “Rydym yn wirioneddol falch o gael gweithio gyda cherddor o safon fel Madeleine, yn enwedig wrth iddi berfformio gwaith sydd mor bwysig i gerddoriaeth Gymreig.
"Mae’n dangos pa mor bell mae Cerddorfa Symffoni Wrecsam wedi dod, ac rydym yn edrych ymlaen at y cyngerdd cyffrous hwn – y cyntaf mewn tymor sy’n addo bod ymysg y gorau eto.”