'Tân gwyllt wedi dinistrio fy mywyd': Tad a gollodd ei wraig a’i blant yn erfyn ar bobl i gymryd gofal

Aroen Kishen

Mae tad wedi rhybuddio am beryglon tân gwyllt ar ôl colli ei wraig a’i dri o blant ar noson a “ddinistriodd” ei fywyd.

Bu farw gwraig Aroen Kishen, Seema a’u plant Riyan, 11, Arohi, wyth a Shanaya, oedd yn bedair oed, yn eu cartref yn Hounslow, Llundain ym mis Tachwedd 2023.

Bu farw dau ffrind i’r teulu, Nitin a Sandhaya Chopra, yn y tân hefyd.

Y gred yw bod y tân gwyllt wedi cynnau gwastraff ailgylchu mewn bin plastig gerllaw a bod y fflamau wedi lledaenu i’r tŷ.

“Rydw i am i’r cyhoedd feddwl am y rhai sydd o’u cwmpas cyn defnyddio tân gwyllt,” meddai Aroen Kishen.

“Nid gêm yw tân gwyllt ac nid ffilm ydyw, mae’n fywyd go iawn.

“Gwrandewch ar fy stori a dathlwch gyda’ch teulu. Ond os ydych chi’n defnyddio tân gwyllt, gallech chi golli popeth.”

Roedd Aroen Kishen wedi ceisio achub ei deulu ar ôl y tân ond wedi colli ymwybyddiaeth o ganlyniad i’r mwg.

Clywodd y cwest i’r marwolaethau ei fod wedi ymddwyn mewn modd “arwrol” ac wedi dioddef llosgiadau cyn colli ymwybyddiaeth.

Fe ddigwyddodd y tân ar noson Diwali sy’n cael ei dathlu ar 20 Hydref eleni. Bydd noson tân gwyllt ar 5 Tachwedd.

Dywedodd Paul Askew, dirprwy gomisiynydd cynorthwyol y frigâd dân yn Llundain: “Wrth i ni agosáu at Diwali, Calan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt, rydym yn dymuno tymor tân gwyllt diogel i bawb.

“Mae’r digwyddiad hwn yn anffodus yn tynnu sylw at y peryglon yr ydym yn gwybod sy’n bodoli gyda thân gwyllt.”

Dywedodd y dylai pawb “wrando ar stori Mr Kishen a dilyn ein cyngor trwy sicrhau arddangosefydd tân gwyllt diogel a threfnus eleni.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.