Rhys Patchell, Dan Lydiate a Duncan Jones yn ymuno â thim hyfforddi Cymru
Mae’r cyn chwaraewyr rhyngwladol Rhys Patchell, Dan Lydiate a Duncan Jones wedi ymuno â thîm hyfforddi rygbi Cymru.
Bydd Cymru yn herio’r Ariannin, Japan, Seland Newydd a De Affrica yng Nghyfres yr Hydref fis nesaf dan arweiniad y prif hyfforddwr newydd, Steve Tandy.
Yn ymuno â nhw ar gyfer y gemau bydd Patchell a Lydiate, sydd wedi’u penodi’n hyfforddwyr cicio ac amddiffyn gyda’r Dreigiau ers iddyn nhw ymddeol o chwarae ar ddiwedd y tymor diwethaf.
Wedi’i benodi fel hyfforddwr y sgrym dros dro mae Duncan Jones, cyn brop Cymru sydd bellach yn hyfforddwr y sgrym gyda’r Gweilch.
Mae’r Neil Jenkins yn parhau i weithio’n llawn amser fel hyfforddwr sgiliau i Undeb Rygbi Cymru ac mae’n gweithio gyda chwaraewyr unigol fel rhan o’u cynlluniau datblygu personol.
Dywedodd Steve Tandy: "Rwy’n falch iawn y bydd Duncan, Dan a Rhys yn ymuno â ni ar gyfer Cyfres Hydref Quilter a hoffwn ddiolch i’r Gweilch a’r Dreigiau am ganiatáu iddyn nhw allu derbyn y cyfleoedd yma gyda Chymru.
"Rwy’n gyffrous bod y tîm hyfforddi bellach yn gyflawn ar gyfer y pedair gêm sydd ar y gorwel ac rwy’n gwybod ein bod i gyd yn edrych ymlaen at fwrw ati."
Llun: Asiantaeth Huw Evans