'Popeth o fewn ein gallu' i sicrhau ad-daliad gan gwmni PPE Michelle Mone

Michelle Mone

Mae Llywodraeth y DU yn dweud eu bod yn ymrwymo i sicrhau fod cwmni sy'n gysylltiedig â'r Farwnes Michelle Mone, yn ad-dalu miliynau o bunnoedd a dalwyd o'r pwrs cyhoeddus am offer PPE diffygiol yn ystod cyfnod pandemig Covid-19. 

Mae'r terfyn amser oedd gan y cwmni i ad-dalu'r swm sy'n ddyledus yn dilyn penderfyniad yr Uchel Lys bellach wedi pasio heb i'r "un geiniog gael ei dalu'n ôl."

Yn gynharach y mis hwn, fe ddyfarnodd yr Uchel Lys fod cwmni PPE Medpro, oedd wedi ei sefydlu gan ŵr y Farwnes Mone, Doug Barrowman, a oedd wedi derbyn cytundebau gwerth miliynau i bunnoedd gan y llywodraeth ar y pryd, wedi torri amodau'r cytundeb drwy ddarparu offer anaddas a diffygiol.

Roedd gan y cwmni tan 1600 ddydd Mercher i ad-dalu'r swm o £122m sy'n ddyledus, ynghyd â llog o £23m.

Mewn datganiad, dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Wes Streeting: "Ar adeg o argyfwng cenedlaethol, fe werthodd cwmni PPE Medpro offer oedd ddim yn cyrraedd safonau’r llywodraeth gan bocedu arian y trethdalwyr.

"Mae PPE Medpro wedi methu â chwrdd â'r dyddiad i ad-dalu - ac maen nhw'n dal i fod yn ddyledus am dros £145m i'r llywodraeth, gyda llog bellach yn cael ei ychwanegu'n ddyddiol."

"Byddwn yn mynd ar ôl cwmni PPE Medpro gyda phopeth sydd o fewn ein gallu i gael yr arian hwn yn ôl lle mae'n perthyn - a hynny yn ein GIG," ychwanegodd Mr Streeting.

Yn gynharach, fe ddywedodd llefarydd ar ran Mr Barrowman a'i gonsortiwm, sydd tu ôl i gwmni PPE Medpro eu bod yn "barod i drafod setliad".

"Yn siomedig iawn, nid yw'r llywodraeth wedi gwneud unrhyw ymdrech i geisio dechrau trafodaethau efo ni," meddai'r llefarydd.

Yn ystod yr achos llys, fe gynigiodd PPE Medpro i dalu £23m i setlo'r achos, ond fe gafodd y cynnig ei wrthod gan yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.