Galw ar gwmni teithio i adolygu mesurau diogelwch wedi marwolaeth bachgen pump oed
Mae galwadau ar gwmni teithio i adolygu eu mesurau diogelwch wedi i fachgen bump oed o Ferthyr Tudful foddi mewn pwll nofio ar wyliau yng Ngwlad Groeg.
Clywodd cwest ddydd Mawrth fod Theo Treharne-Jones wedi boddi mewn pwll nofio ar ôl datgloi drysau'r eiddo yr oedd y teulu'n aros ynddo ar wyliau.
Fe gafodd Theo ei ddarganfod yn farw yn y pwll awyr agored ym Mhentref Gwyliau Atlantica yn Kos, ym mis Mehefin 2019.
Yn dilyn cwest yn Llys Crwner Canol De Cymru, fe ddaeth yr is-grwner Gavin Knox i'r casgliad bod y farwolaeth yn ddamweiniol.
Mae cwmni teithio Tui yn dweud eu bod wedi ystyried newidiadau i'w mesurau diogelwch yn sgil marwolaeth y plentyn, ond nad oes unrhyw newidiadau wedi'u gwneud hyd yma.
Dywedodd Mr Knox y byddai'n cyhoeddi adroddiad Atal Marwolaethau yn y Dyfodol i gwmni Tui ac i Abta, sef cymdeithas fasnach ar gyfer asiantau teithio yn y DU, i'w hannog i "ailystyried yr amgylchiadau penodol" sy'n ymwneud â marwolaeth Theo.
Roedd Theo ar wyliau gyda'i rieni, Richard a Nina, a'i deulu ehangach pan fu farw.
Dywedodd Nina Treharne wrth y gwrandawiad fod y teulu wedi aros yn yr un gwesty y flwyddyn flaenorol ond mewn fflatiau gwahanol, ac roedd gan y rhai hynny gadwyni drws y tu mewn i'r ystafelloedd i atal plant rhag gadael.
Dywedodd yn y gwrandawiad ym Mhontypridd "nad oedd gan y fflat roeddynt yn aros ynddo y flwyddyn hon" gadwyni ar y drysau.
Ychwanegodd Ms Treharne fod Theo wedi derbyn diagnosis o gyflwr niwroddatblygiadol syndrom Smith-Magenis, a oedd yn effeithio ar ei gwsg, ac nad oedd yn gallu cyfathrebu.
Dywedodd nad oedd ei mab yn gallu nofio ond y byddan nhw fel teulu yn defnyddio ardal 'splash pad' y pentref gwyliau, ac y byddai'n defnyddio rhwymynnau braich (arm bands).
Clywodd y cwest fod y teulu wedi cyrraedd y pentref gwyliau yn hwyr yn y nos ac wedi casglu'u goriadau o'r dderbynfa cyn gwneud eu ffordd i'r fflat.
Dywedodd Ms Treharne ei bod wedi deffro ar fore 15 Mehefin gan glywed sŵn o'r tu allan. Roedd person arall wedi gweld Theo ym mhen bas y pwll a'i dynnu allan.
Fe gafodd triniaeth CPR ei roi i Theo, ac fe gafodd ei gludo i’r ysbyty mewn ambiwlans, ond bu farw'n ddiweddarach.
'Perygl'
Clywodd y cwest fod y plentyn wedi gallu defnyddio cadwyn y drws i adael y fflat ar ei ben ei hun.
Nid oedd achubwyr bywyd ar ddyletswydd ar y pryd gan fod y pyllau ar gau i westeion, ac nid oedd rhwystrau o amgylch y pwll i atal mynediad.
Dywedodd Libby Jones, rheolwr cyffredinol iechyd a diogelwch tramor Tui, fod y cwmni wedi ystyried gosod cadwyni ar ddrysau'r gwesty yn sgil marwolaeth Theo, ond credwyd y byddai hyn yn peri problemau diogelwch tân.
Ychwanegodd Ms Jones y gallai gosod rhwystrau o amgylch y pwll nofio arwain at blant yn dringo arnynt, gan greu risg ychwanegol.
Dywedodd Mr Knox: "Rwy'n dal i bryderu bod teuluoedd â phlant bregus, ac oedolion sy’n agored i niwed, yn dal i fod mewn sefyllfa lle gallai rhywun, o bosibl heb oruchwyliaeth, adael ystafell westy a cherdded heb unrhyw fath o rwystr i unrhyw fath o berygl.
"Yn achos Theo, pwll nofio oedd y perygl hwnnw."
Mae Tui wedi cael cais am ymateb.