
Dechrau ar y gwaith o ostwng adweithyddion niwclear Trawsfynydd yn 2026
Mi fydd gwaith o ostwng uchder adweithyddion niwclear Trawsfynydd yn dechrau’r flwyddyn nesaf fel rhan o gynllun gwerth £70m.
Mi fydd y tyrrau concrit adnabyddus yn cael eu haneru o ran uchder fel rhan o gynllun dadgomisynu’r safle.
Yn ôl cwmni Constain sydd wedi derbyn y cytundeb i gwblhau’r gwaith mi fydd y gwaith yn creu 100 o swyddi gyda nifer o rheini’n lleol.
Yn ôl NRS, y cwmni sy’n rheoli’r safle wrth ddadgomisynnu, mi fydd y sgiliau fydd yn deillio o'r swyddi rheini yn gallu cael eu defnyddio ar draws gogledd Cymru.
Mi gafodd yr adweithyddion eu codi ar ddiwedd y 1950au gan ddechrau cynhyrchu ynni niwclear erbyn 1965.

Dyma oedd yr unig safle niwclear mewndirol ar y pryd gan ddefnyddio dŵr o Lyn Trawsfynydd er mwyn oeri’r adweithyddion.
Ond wedi 25 mlynedd o gynhyrchu ynni mi ddechreuodd y gwaith o ddadgomisynu y safle yn 1991 gyda disgwyl i hynny gymryd degawdau.
Mae’r gwaith newydd i ostwng uchder yr adweithyddion yn rhan o’r gwaith dadgomisynu. Y nod yn bennaf yw gwella’r olygfa ac effaith yr adweithyddion ar y tirlun.

“Mi fydd y to, wal a’r paneli concrit yn dod lawr oddeutu 25m”, meddai Nigel Wright, Uwch Reolwr Prosiect NRS.
“Fydde nhw’n dod lawr tuag at y drysau melyn”.
“Ma’n contract mawr pwysig, allweddol [...]gwerth £70m a da ni’n disgwyl gweld dwy tower crain yn codi ac ia, dipyn o waith”.

Yn ôl Cyfarwyddwr y safle mi fydd cyfleoedd hefyd i greu swyddi lleol.
“Da ni’n gobeithio fydd na o gwmpas cant o weithwyr ychwanegol ar y safle dros y bedair blynedd nesa fydd yn cymryd y nifer i 350 yn gweithio yma," meddai Tom Williams, Cyfarwyddwr Safle Trawsfynydd.
“Y benefit mwyaf o hynny i’r economi leol ydi rhoi gwaith a sgiliau i bobl leol nid jest i weithio yma ond hefyd i weithio mewn llefydd eraill ar draws yr ardal”.

Er i’r safle gael ei grybwyll fel man posib i gartrefu adweithyddion niwclear bychain (SMRs) ar ddechrau’r degawd does dim disgwyl i hynny ddigwydd bellach gyda Llywodraeth Prydain yn canolbwyntio ymdrechion ar safleoedd Wylfa ar Ynys Môn ac Oldbury yn Ne Lloegr.
Mae awgrym hefyd y gallai’r safle gael ei ddefnyddio i greu isotopau ond does dim cadarnhad gan Lywodraeth Prydain na Chymru o’r cynlluniau hynny.
Yn ôl y Cynghorydd lleol, Elfed Roberts mi fydd y gwaith newydd yn newid mawr i’r ardal.
“Mae ‘na bach o legacy bod nhw yma," meddai.
“Mae na rai, ac wrach bod nhw’n iawn yn dweud dyle nhw gadw nhw.
“Ond yn gyffredinol y teimlad yn lleol ydi bod angen dod â nhw lawr ac altro’r tirlun”.

Ychwanegodd bod yr addewid o swyddi yn sgil y cynllun yn cael ei groesawu.
“Mae nhw am gael dros gant o weithwyr lleol, defnyddio cyflenwyr lleol... dros dro wrach, dros gyfnod o flynyddoedd ond mae gobeithio wrach geith nhw gadw mlaen ar y safle wedyn llu felly mae o am fod yn hwb fach i’r ardal yn sicr," meddai.
Gyda’r cytundeb wedi dechrau, mae disgwyl i’r gwaith ddechrau yn Haf 2026 gan barhau am gyfnod o bedair blynedd.