Lloegr yn cyrraedd Cwpan y Byd 2026

Lloegr

Mae Lloegr wedi cyrraedd Cwpan y Byd 2026, ar ôl curo Latfia 0-5 oddi cartref nos Fawrth. 

Lloegr ydy'r wlad gyntaf o Ewrop i gymhwyso ar gyfer y gystadleuaeth.

Roedd Lloegr yng ngrŵp K gydag Albania, Serbia, Latfia ac Andorra.

Cafodd y Saeson fuddugoliaeth gyfforddus yn erbyn Latfia, sydd yn safle 137 ar restr detholion y byd.

Er y dathliadau, roedd hi'n noson anghyfforddus i'r rheolwr Thomas Tuchel ar adegau, a deimlodd rwystredigaeth gan gefnogwyr Lloegr wrth iddyn nhw weiddi mewn ymateb i'w feirniadaeth am 'gefnogwyr tawel' yn y gêm gyfeillgar yn erbyn Cymru ddydd Iau yn Wembley. 

Mae gobeithion Cymru o gyrraedd Cwpan y Byd yn parhau, ond mae'n debygol y bydd yn rhaid gwneud hynny drwy'r gemau ail-gyfle. 

Fe gollodd Cymru o 2-4 yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Lun yn erbyn Gwlad Belg.

Mae lle yn y gemau ail gyfle eisoes wedi’i sicrhau drwy Gynghrair y Cenhedloedd.

Ond fe fyddai gorffen yn yr ail safle yng Ngrŵp J yn cynnig llwybr mwy ffafriol o bosib, gan gynnwys gêm gartref yn y rownd gyn derfynol.

Llun: Reuters

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.