'Cenedl hynod falch': Cronfa £1m i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi

Gorymdaith Dydd Gwyl Dewi

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cronfa newydd sydd werth £1 miliwn i helpu pobl ddathlu Dydd Gŵyl Dewi'r flwyddyn nesaf.

Y bwriad meddai'r llywodraeth fydd dod a chymunedau at ei gilydd i wneud gweithgareddau i ddathlu'r diwrnod.

Gall grwpiau cymunedol bach neu sefydliadau cenedlaethol mawr wneud ceisiadau am yr arian o ddydd Mercher ymlaen, a bydd tair lefel wahanol o gyllid ar gael.

Rhwng £500 a £5,000 yw'r arian sydd ar gael i grwpiau lleol sydd yn gwneud cais llwyddiannus. 

Mae'r swm yn cynyddu i hyd at £20,000 i sefydliadau rhanbarthol fel cynghorau lleol, tra y bydd £40,000 ar gael i sefydliadau sy'n cynrychioli Cymru gyfan. 

Ymhlith y gweithgareddau y gallai gael eu cynnal byddai twmpathau, gorymdeithiau, perfformiadau cerddorol neu ddigwyddiadau sy'n ymwneud â bwyd.

Yn ôl y Prif Weinidog, Eluned Morgan y nod yw "dathlu ein hysbryd, ein balchder a'r undod sy'n ein diffinio ni."

"Mae Dydd Gŵyl Dewi yn gyfle i ddathlu traddodiadau unigryw a chyfoethog Cymru. O eisteddfodau ysgol i orymdeithiau Dydd Gŵyl Dewi, mae pobl ledled Cymru ac ar draws y byd yn dod at ei gilydd bob blwyddyn i ddangos y gorau o'n diwylliant a chymaint mwy sydd gan Gymru i'w gynnig.

"Ry'n ni'n genedl hynod falch – ry'n ni'n cefnogi'r Cymry mewn digwyddiadau chwaraeon mawr, yn dathlu ein diwylliant a'n hiaith, ac yn byw ein bywydau bob dydd mewn ffordd unigryw Gymreig."

Ychwanegodd mai'r bwriad yw bod pawb yn teimlo yn rhan o Ddydd Gŵyl Dewi.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.