Calan Gaeaf: Rhybudd am blant yn taflu wyau yng Nghaernarfon
Mae’r heddlu wedi rhybuddio am blant wedi eu gwisgo “mewn du” yn taflu wyau yng Nghaernarfon gan greu "dipyn o lanast" wrth i Galan Gaeaf agosáu.
Dywedodd Heddlu’r Gogledd bod y “grŵp go fawr o blant yn ei harddegau” wedi bod yn taflu wyau at dai yn ardal Maes Barcer a bod hynny yn gallu achosi “difrod” a hefyd “niwsans”.
“Fuodd y grŵp yma yn meddwl bod nhw'n savvy yn gwisgo du i gyd a chuddiad eu hwynebau,” medden nhw.
“Yn anffodus i'r grŵp yma, mae yna dipyn o CCTV ar y stad ac maen nhw wedi cael ei adnabod, felly fe fyddan ni yn delio efo nhw yn y man.”
“Efallai nad dyma ydi 'trosedd y ganrif', ond gall ymddygiad gwrthgymdeithasol gael effeithiau andwyol ar aelodau'r cyhoedd o hyd ac ni fydd yn cael ei oddef,” medden nhw.