'Argyfwng digynsail': Nifer y cathod yng ngofal yr RSPCA ar ei uchaf erioed

Alice Potter/Cathod

Mae RSPCA Cymru wedi galw ar bobl i gynnig cartrefi i gathod wrth i'r elusen wynebu "argyfwng digynsail" ar draws y DU.

Dywedodd yr elusen lles anifeiliaid eu bod bellach yn gofalu am tua 1,700 yn eu 14 o ganolfannau cenedlaethol ar hyd a lled Cymru a Lloegr. 

Mae hynny’n gynnydd o 800 o'i gymharu â 2020, gan olygu bod y ffigwr wedi mwy na dyblu mewn pum mlynedd.

Mae miloedd o gathod pellach yn disgwyl am gartref mewn canghennau annibynnol hefyd, medd yr elusen.

Dywedodd Alice Potter, arbenigwr lles cathod yr elusen, bod yr anifeiliaid anwes yn cael y gofal gorau posib, ond bod bywyd mewn amgylchedd o’r fath rhoi pwysau mawr ar y cathod.

“Mae'n rhaid rhoi'r rhan fwyaf ohonynt mewn cathdai (‘catteries’) preifat nes bod lle iddynt yn ein canolfannau ailgartrefu ein hunain,” meddai. 

Pwy sy’n chwilio am gartref newydd?

Mae Alice Potter bellach yn annog pobl i ystyried achub cath yr Hydref hwn. 

Yng nghanolfan Bryn-Y-Maen ym Mae Colwyn, Conwy, mae Lula, wyth oed, Nala, tair oed, a Boo, 10 mis oed, i gyd yn chwilio am gartref newydd. 

Image
Lula
Lula, Bae Colwyn
Image
Nala
Nala, Bae Colwyn
Image
Boo
Boo, Bae Colwyn

Mae Jackie, wyth oed, a Tommy, dwy oed, hefyd yn chwilio am gartref wrth iddyn nhw ddisgwyl yng nghanolfan yr RSPCA yng Nghasnewydd. 

Mae Jackie yn byw gyda chyflwr o’r enw Syndrom Horner, sydd wedi effeithio ar ei phryd a'i gwedd – ond mae ganddi “lawer o gariad i’w rhoi,” meddai’r rheolwr Amirah Jones. 

Image
Tommy
Tommy, Casnewydd

Yng nghanolfan Llys Nini ym Mhenllergaer, Abertawe, mae Trouble, chwech oed yn gobeithio cael ei ail-gartrefu. 

Er gwaethaf ei enw, mae Trouble yn gath fach annwyl, meddai’r rheolwr yno Gary Weeks. 

Image
Trouble
Trouble, Casnewydd

Mae’r chwiorydd Hagen a Halle, pum mis oed, hefyd yn chwilio am deulu newydd yn ogystal. 

Image
Halle a Hagen
Halle (chwith) a Hagen (dde), Casnewydd

Pam fod mwy o gathod dan ofal yr RSCPA?

Daw’r cynnydd yn nifer y cathod dan ofal yr RSPCA yn dilyn “sawl achos” yn wneud â chreulondeb ac esgeulustod ar raddfa fawr yn ddiweddar, meddai’r elusen. 

Mae cathod hefyd yn disgwyl yn hirach i ddod o hyd i gartref newydd o gymharu â'r un adeg y llynedd. 

Mae cathod yn disgwyl wythnos yn fwy i gael eu mabwysiadu gan orfod treulio 40 diwrnod dan ofal yr elusen ar gyfartaledd. 

Mae hynny’n gynnydd o 23% o'i gymharu â mis Medi y llynedd pan oedd cathod yn disgwyl 32.5 ddiwrnod i gael eu mabwysiadu. 

Daw hynny oll er mai cathod yw’r anifail sydd yn cael eu mabwysiadu amlaf sydd fan ofal yr RSPCA – gyda thua dau yn dod o hyd i gartref newydd bob awr.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.