'Achub bywydau': Cynllun yn annog gyrwyr newydd i roi gwaed

Rhoi gwaed

Fe fydd unigolion sydd yn gwneud cais am drwydded yrru yn cael eu hannog i ddod yn rhoddwyr gwaed fel rhan o ymgyrch newydd. 

Daw’r ymgyrch fel rhan o strategaeth i gynyddu nifer y bobl sydd yn rhoi gwaed. 

Fe fydd pawb sy'n dymuno gwneud cais am drwydded yrru, o hyn ymlaen yn derbyn dolen ar e-bost i gofrestru fel rhoddwyr gwaed yn dilyn cyflwyno'r cais.

Fe fyddan nhw hefyd yn gweld neges sydd yn esbonio bod rhoi gwaed yn gallu achub bywydau. 

Y gobaith yw y byddai mwy o bobl ifanc yn penderfynu dod yn rhoddwyr gwaed o achos yr ymgyrch newydd. 

Yn ôl corff Gwaed a Thrawsblaniadau'r GIG, sef awdurdod iechyd arbennig Cymru a Lloegr, mae dros hanner y bobl sy’n rhoi gwaed dros 45 oed. 

Maen nhw’n dweud bod galw ar bobl ifanc i ddod yn rhoddwyr gwaed er mwyn sicrhau bod yna gyflenwad digonol o waed yn y dyfodol.

'Achub bywydau'

Fe allai unigolion ddechrau rhoi gwaed unwaith eu bod nhw wedi dathlu eu pen-blwyddi yn 17 oed. 

Dywedodd Altaf Kazi, sef Cyfarwyddwr Partneriaethau Cynorthwyol ar gyfer Gwaed a Thrawsblaniadau’r GIG: “Yn 17 oed gallwch chi ddysgu gyrru a dechrau rhoi gwaed. 

“Felly mae’r bartneriaeth newydd hon gyda’r DVLA yn gyfle gwych i… gyrraedd mwy o bobl iau."

Dywedodd Tim Moss, Prif Weithredwr y DVLA: “Gyda miliynau o geisiadau am drwyddedau gyrru yn cael eu prosesu bob blwyddyn, mae’r DVLA mewn sefyllfa unigryw i helpu i godi ymwybyddiaeth.”

Gallai “helpu i achub bywydau” yn y pen draw, ychwanegodd.

Llun: Gwaed a Thrawsblaniadau'r GIG/PA Wire

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.