Prifysgol Bangor: Cyflwyno cynllun ysgol fusnes er cof am biliwnydd o Gymru

Ysgol Busnes Albert Gubay

Mae Prifysgol Bangor wedi datgelu cynlluniau manwl ar gyfer ysgol fusnes er cof am biliwnydd o Gymru a sefydlodd archfarchnad Kwik Save.

Cafodd cais cynllunio ei gyflwyno gan y brifysgol i Gyngor Gwynedd fel rhan o ddatblygiad Ysgol Fusnes Albert Gubay.

Bu farw Mr Gubay yn 2016 yn 87 oed, gan adael £10 miliwn i Brifysgol Bangor drwy ei sefydliad elusennol - y rhodd fwyaf yn hanes y brifysgol..

Mae Cyngor Gwynedd bellach wedi derbyn sawl cais cynllunio ar gyfer y datblygiad, gan gynnwys un am Adeilad Rhestredig.

Mae'r datblygiad ar safle Coleg Menai ar Ffordd Ffriddoedd yn y ddinas, sef hen safle Ysgol Friars a fydd "wrth galon" y cynllun.

Mae'r datblygiad arfaethedig yn cynnwys newidiadau, dymchwel yn rhannol ac ymestyn hen Ysgol Friars ac “yn anelu at adnewyddu ac ailddefnyddio'r prif adeilad rhestredig".

Fe fyddai'r cynllun hefyd yn disodli'r estyniad yng nghefn yr adeilad er mwyn creu "estyniad cyfoes pwrpasol i ddarparu cyfleusterau gwell ar gyfer ysgol fusnes y brifysgol".

Byddai'r adeilad newydd yn ddau lawr o uchder.

Image
Y cynllun
Y cynllun drwy lygad aderyn

Yn fachgen ifanc roedd Albert Gubay o'r Rhyl, a oedd yn Gatholig, wedi dweud y byddai'n rhannu ei arian gyda'r eglwys pe bai'n gyfoethog.

Dechreuodd yn y byd busnes trwy werthu losin o gefn fan yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Fe aeth yn ei flaen i sefydlu'r archfarchnad Kwik Save.

Fe dyfodd ei ffortiwn i dros £1 biliwn, ac fe wnaeth ddosbarthu rhan fwyaf o'r arian i achosion elusennol trwy gydol ei fywyd.

Erbyn 2006 roedd yn un o 700 pobl fwyaf cyfoethog y byd ac fe gafodd ei anrhydeddu gan y Pab.

Image
Hen Ysgol Friars
Hen Ysgol Friars

Dywedodd y brifysgol eu bod nhw "wrth eu bodd" a disgrifiodd yr Is-ganghellor Yr Athro Edmund Burke bod y rhodd ariannol yn "weithred eithriadol o haelioni”.

"Mae'n briodol iawn y bydd yr adeilad newydd yn dwyn ei enw, gan sicrhau bod ei etifeddiaeth yn parhau i ysbrydoli cenedlaethau o fyfyrwyr y dyfodol," meddai.

"Er bod y dirwedd ariannol yn heriol i brifysgolion ar hyn o bryd, mae buddsoddi'n strategol mewn meysydd allweddol fel hyn yn hollbwysig er mwyn sicrhau cynaliadwyedd a thwf hirdymor ein sefydliad."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.