Newyddion S4C

Ffoadur Afghan yng Nghaerdydd yn ofni na fydd hi’n gweld ei theulu eto

ITV Cymru 19/08/2021
ITV Cymru

Mae dynes Afghan yng Nghaerdydd wedi disgrifio’r straen o boeni am ddiogelwch ei theulu yn Afghanistan wedi iddi hi dderbyn bygythiadau i’w bywyd gan y Taliban 10 mlynedd yn ôl.

Dywedodd Shahnaz Hakim ei bod hi wedi cael sawl pwl o banig dros yr wythnos ddiwethaf oherwydd y straen o wylio’r Taliban yn cymryd rheolaeth o Afghanistan mor sydyn.

“Dydw i ddim wedi gallu cysgu. Rydw i siwr o fod yn cael awr neu ddwy o gwsg bob nos”, meddai.

Dywedodd Ms Hakim ei bod hi’n ofni na fydd hi byth yn gweld ei theulu’n fyw eto.

‘Dim dewis ond ffoi’

Roedd Ms Hakim yn gweithio fel rheolwr ar brosiectau addysg a gafodd eu sefydlu gan lywodraeth yr UDA yn Afghanistan. Fel rhan o’i gwaith, roedd hi’n hyrwyddo addysg i ferched, ac yn gweithio gyda llywodraeth Afghanistan.

“Fe adawais i Afghanistan oherwydd roeddwn i’n derbyn bygythiadau ar fy mywyd gan y Taliban gan yr oeddwn i’n gweithio yn y sector addysg.

“Am ryw rheswm ges i fy nhargedu. Roedd yn rhaid i mi ffoi, doedd dim dewis arall gen i.

“Doedden nhw ddim am ganiatáu i bobl fel fi barhau [gyda fy ngwaith].

“Galla i ddim dweud sawl gwaith gweddïais i am Allah. Bob eiliad roeddwn i’n meddwl roedden nhw am guro ar fy nrws, fy nghymryd i a fy saethu”.

 

Image
ITV Cymru
Gwnaeth Ms Hakim ffoi rhag y Taliban yn dilyn bygythiadau i’w bywyd 10 mlynedd yn ôl. [Llun: ITV Cymru]

 

Dydy Ms Hakim ddim yn ffyddiog y bydd y Taliban yn llai creulon wrth reoli Afghanistan y tro hyn.

“Rydw i’n poeni oherwydd beth mae’r Taliban wedi gwneud yn y gorffennol.

“Un tro, roeddwn i’n sbïo rownd fy malconi yn siarad gyda fy nghymydog, ac fe wnaeth y Taliban saethu tuag ata i, ond fe wnaeth y fwled daro wal y balconi”, meddai.

“Tro arall, codais fy ngorchudd wyneb er mwyn cael awyr iach, a gwelais i ddyn yn dechrau rhedeg tuag ata i. Pan ddaeth ef ryw bum neu chwe medr i ffwrdd ohonof i, roedd e’n dal gwn ac yn gweiddi arna i i orchuddio fy ngwyneb, ‘rhag dy gywilydd di’n datguddio dy wyneb.

“Wyddoch chi sut oeddwn i’n teimlo? Fedra i ddim esbonio’r peth”.

Disgrifiodd hi hefyd gwylio’r Taliban yn ymosod ar ei gŵr, ei brawd a’i nai.

“Roedden nhw’n eu curo nhw gyda’u gynnau, eu cicio nhw, yn trio eu harteithio nhw. Gwnaethon nhw ein harteithio ni yn emosiynol drwy wylio hyn yn digwydd”.

‘Dim ffydd’ yn addewidion y Taliban

Dywedodd y Taliban y gwnawn nhw roi hawliau i fenywod a merched yn Afghanistan ‘o fewn y gyfraith Islamaidd’, ond does dim hyder gan Ms Hakim yn yr addewidion hyn.

“Galla i ddim eu credu nhw. Dydyn nhw ddim yn bobl gredadwy.

“Fe wnawn nhw yr un pethau ag o’r blaen. Maen nhw wedi lladd pobl. Maen nhw wedi saethu pobl.

“Maen nhw eisiau targedu’r merched a’u gorfodi nhw i’w priodi”.

Image
ITV Cymru
Dydy Ms Hakim ddim yn ffyddiog y bydd y Taliban yn cadw eu haddewidion ar hawliau menywod a merched. [Llun: ITV Cymru]

 

Mae chwiorydd a brodyr Ms Hakim, a’u plant, yn dal i fyw yn Afghanistan.

“Maen nhw i gyd wedi derbyn addysg ac yn gweithio. Maen nhw’n gweithio fel athrawon, mewn ysbytai, ac mae fy neiod yn gweithio yn y palas arlywyddol.

“Mae ofn sylweddol arnyn nhw. Maen nhw’n cuddio yn eu cartrefi. Does neb yn mynd allan oherwydd eu hofn o’r Taliban.

“Dydw i methu hyd yn oed galw’r Taliban yn anifeiliaid gwyllt – byddai hynny yn amharchus tuag at anifeiliaid gwyllt”, ychwanegodd.

‘Methiant’ yr UDA yn Afghanistan

Dydy Ms Hakim ddim yn credu y gwnaeth yr UDA a’r DU y peth iawn trwy dynnu milwyr o Afghanistan, gan alw presenoldeb yr UDA yn Afghanistan bellach yn “fethiant”.

Er ei bod hi’n obeithiol y bydd Cymru yn croesawu ffoaduriaid o Afghanistan, dydy hi ddim yn hyderus y bydd ei theulu hi’n medru ffoi.

“Fe fyddai hi’n wirion i fi ofyn i Lywodraeth y DU groesawu fy nheulu, oherwydd gallen nhw ddweud ‘nid dim ond ti sydd wedi dy effeithio, mae yna lawer o bobl Afghan’”.

Dywedodd Ms Hakim fod gweld beth sydd yn digwydd yn Afghanistan nawr fel “ôl-fflachiad mewn ffilm sydd yn eich cymryd chi i’r dyfodol”.

Yn ei barn hi, ni fydd y sefyllfa yn Afghanistan yn well y tro hyn o dan reolaeth y Taliban: “Rydw i’n meddwl bydd hanes yn ail-adrodd ei hun”, meddai.

“Does gen i ddim gobaith y bydda i’n gweld fy nheulu’n fyw eto”.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.