Cyhuddo dau ddyn o lofruddio y troseddwr rhyw Ian Watkins
Mae dau ddyn wedi eu cyhuddo o lofruddio y troseddwr rhyw a chyn ganwr y Lostprophets, Ian Watkins.
Mae Rashid Gedel, 25, a Samuel Dodsworth, 43 oed wedi eu cyhuddo o'i lofruddio yng ngharchar Wakefield, Sir Gorllewin Efrog fore Sadwrn.
Roedd y cyn-ganwr o Bontypridd yn treulio dedfryd o garchar am 29 mlynedd yno am droseddau rhyw yn erbyn plant.
Fe ymddangosodd Dodsworth a Gedel ar wahân o flaen Llys Ynadon Leeds fore dydd Llun, gyda'r ddau yn siarad i gadarnhau eu henwau a'u dyddiadau geni yn unig yn ystod y gwrandawiadau byr.
Dywedodd y Barnwr Dosbarth Anthony Dunne fod cyfreithiwr Dodsworth wedi llenwi ffurflen ar gyfer y llys gan ddweud bod y manylion a nodwyd yn ei gyfweliad yn crynhoi ei achos.
Dywedodd ffurflen Gedel, a ymddangosodd ar wahan wedyn, na fyddai yn pledio am y tro.
Fe fydd y ddau ddyn yn aros y ddalfa nes eu hymddangosiad nesaf yn Llys y Goron Leeds ddydd Mawrth.
Dywedodd Yr Ustus Anthony Dunne wrth Dodsworth: “Mae'r cyhuddiad yn eich erbyn yn golygu bod yn rhaid anfon yr achos hwn i Lys y Goron cyn gynted â phosibl.”
Y cefndir
Cafodd Watkins a oedd yn 48 oed, ei garcharu fis Rhagfyr 2013, ar ôl pledio'n euog i gyfres o droseddau rhyw, yn cynnwys ymgais i dreisio baban un o'i gefnogwyr.
Cafodd ei arestio wedi i'r heddlu gynnal gwarant cyffuriau yn ei gartref ym Mhontypridd ym mis Medi 2012, pan gafodd sawl cyfrifiadur, ffonau symudol, a dyfeisiadau storio eu cymryd o'r cartref.
Dioddefodd Watkins ymosodiad yng ngharchar Wakefield fis Awst 2023. Cafodd ei gludo i'r ysbyty.
Doedd ei anafiadau bryd hynny ddim yn peryglu ei fywyd.
Yn 2019, cafodd 10 mis yn ychwanegol at ei ddedfryd, am fod â ffôn symudol yn ei feddiant yn y carchar.
Honnodd fod dau garcharor wedi ei orfodi i gael y ffôn, er mwyn iddyn nhw gysylltu â menywod a oedd yn anfon llythyron ato.
Wrth roi tystiolaeth, gwrthododd gyhoeddi enwau'r dynion, ond dywedodd: "Ni fyddech yn dymuno eu croesi nhw."