Ymchwiliad llofruddiaeth: Enwi plant dwy a thair oed sydd wedi marw
Mae heddlu sy’n cynnal ymchwiliad i lofruddiaeth wedi enwi merch a bachgen dwy a thair oed a fu farw.
Fe gafodd Meraj Ul Zahra a Abdul Momin Alfaateh eu darganfod wedi eu hanafu a ddim yn ymateb mewn cartref yn Swydd Stafford fore ddydd Sul.
Fe fuodd y ddau farw yn y fan a’r lle.
Mae eu perthnasau agosaf wedi cael gwybod ac yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol.
Mae menyw 43 oed, o ardal Stafford, a gafodd ei harestio ar amheuaeth o lofruddiaeth ddydd Sul, yn parhau yn y ddalfa tra bod yr ymholiadau'n parhau.
Mae cordon yr heddlu yn ei le yn Corporation Street, Stafford lle mae’r cartref.
Mae'r digwyddiad wedi'i gyfeirio at y Swyddfa Annibynnol ar Ymddygiad yr Heddlu (IOPC), meddai Heddlu Swydd Stafford.
Dywedodd llefarydd ar ran yr IOPC: “Fe gawson ni wybod gan Heddlu Swydd Stafford am farwolaeth dau o blant yn Stafford ddydd Sul 12 Hydref lle bu cyswllt diweddar â'r heddlu cyn eu marwolaeth.
“Mae’r achos wedi ei gyfeirio atom ni gan yr heddlu, ac unwaith y bydd yn cael ei dderbyn, byddwn yn asesu cyn penderfynu a oes angen camau gweithredu pellach.”
Anfonwyd dau ambiwlans a dau barafeddyg i'r lleoliad, meddai Gwasanaeth Ambiwlans Gorllewin Canolbarth Lloegr.
Dywedodd llefarydd: “Ar ôl i staff yr ambiwlans gyrraedd, fe wnaethon ni weld dau glaf, y ddau yn blant.
“Yn anffodus, daeth yn amlwg yn gyflym nad oedd modd gwneud dim i'w hachub a chadarnhawyd eu bod wedi marw yn y fan a’r lle.”
Llun gan Matthew Cooper / PA.