Mari Grug: Cyhoeddi hunangofiant i roi 'gobaith a hyder' i bobl sy'n byw gyda chanser
Mae'r cyflwynydd Mari Grug wedi cyhoeddi ei hunangofiant gyda'r nod o "roi gobaith a hyder" i bobl sydd yn byw gyda chanser.
Bydd ei llyfr 'Dal i fod yn fi' yn cael ei chyhoeddi ddydd Mawrth ac mae Mari yn ysgrifennu am ei phrofiad o ddiagnosis canser y fron.
Fis Gorffennaf 2023, fe ddatgelodd Mari, sy’n wyneb a llais cyfarwydd ar raglenni Heno, Prynhawn Da a Radio Cymru bod ganddi ganser y fron.
Ychwanegodd ei bod hi wedi cael diagnosis dri mis ynghynt a’i fod ers hynny wedi lledu i’r nodau lymff a’i hafu.
“Ces i fy llorio,” meddai.
“Mae canser y fron yn mynd i effeithio ar 1 mewn 7 ohonom, gyda chanser y fron metastatig (sef canser sydd wedi lledu i rannau eraill o’r corff) yn gyfrifol am y mwyaf o farwolaethau ymhlith menywod rhwng 40 a 59 ym Mhrydain bob blwyddyn.
"Felly gan ystyried y ffeithiau brawychus hynny ro’n i’n teimlo dyletswydd i rannu fy stori er mwyn codi ymwybyddiaeth.
“Fy nod yw rhoi gobaith a hyder i bobol eraill sy’n byw gyda chanser cam 4 ac i ddangos, er ei fod yn anodd ar brydiau, bod modd byw bywyd llawn."
'Anodd'
Cafodd Mari Grug driniaethau ar gyfer y canser ac mae hi wedi siarad yn gyhoeddus yn gyson am ei phrofiadau, gan annog eraill i gadw golwg ar eu hiechyd.
Fe gafodd hi dau sgan clir o ganser ar yr afu yn olynol, ond ym mis Hydref y llynedd cyhoeddodd Mari fod ganddi ganser unwaith yn rhagor a'i bod hi ar fin cael triniaeth eto.
Mae hi wedi cydweithio gyda Meleri Wyn James ar yr hunangofiant, a bod siarad am ei phrofiadau gyda hi yn gallu bod yn anodd.
“Dwi wedi bod yn lwcus iawn i gydweithio gyda Meleri Wyn James ar y llyfr a dwi’n ddiolchgar iawn iddi am ei hamser a’i hamynedd," meddai.
"Fydd unrhyw un sy’n fy nabod i yn gwybod mod i’n gallu siarad, felly doedd hynny ddim yn broblem.
"Ond wnes i weld siarad am y plant yn anodd, roedd hi’n dipyn o job i ddal y dagrau nôl.”
Dywedodd Meleri ei fod yn "fraint i gydweithio gyda Mari Grug wrth adrodd ei stori yn y gyfrol hon.
"Ro’n ni’n dwy yn ein dagrau ar adegau, ond mae yna ddigon o heulwen a gobaith yn y dweud hefyd.”