Aberystwyth: Ymchwiliad wedi ymosodiad honedig gan ddyn ar dri myfyriwr
Mae'r heddlu'n ymchwilio i ymosodiad honedig ar dri myfyriwr gan ddyn yn Aberystwyth.
Cafodd swyddogion Heddlu Dyfed Powys eu galw i ardal yn agos i'r bont ar Allt Penglais am 01.00 fore Mercher 8 Hydref, yn dilyn adroddiad fod dyn wedi ymosod ar dri myfyriwr.
Mae'r heddlu yn chwilio am ddyn gwyn yn ei ugeiniau, gyda gwallt du hir, sydd tua chwe throedfedd o daldra ac yn fawr o'r rhan maint.
Roedd yn gwisgo dillad du, gyda phatrwm sgerbwd ar ei dop, ac esgidiau gwyn.
Mae swyddogion yn credu ei fod wedi cerdded i gyfeiriad tref Aberystwyth yn dilyn y digwyddiad.
Mae Heddlu Dyfed Powys yn annog unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â nhw, gan ddyfynnu’r cyfeirnod 25*836905.