Dyn oedd ar goll ar Yr Wyddfa wedi marw o 'achosion annaturiol'
Rhybudd: Gall rhai manylion yn yr erthygl hon beri gofid.
Mae agoriad cwest wedi clywed mai marw o "achosion annaturiol" wnaeth dyn o Loegr y cafodd ei gorff ei ddarganfod ar Yr Wyddfa.
Roedd Kieran Thomas Davenport, peiriannydd 27 oed o Bewdley, Sir Worcester, wedi mynd ar goll ar yr Wyddfa ar 29 Hydref 2025.
Yn ôl yr Heddlu, cafodd ei weld ddiwethaf ychydig cyn 12:00, yn ardal Bwlch Glas ger Llwybr Pyg ar yr Wyddfa.
Wrth agor y cwest i’w farwolaeth ddydd Llun, dywedodd Uwch Grwner Gogledd Orllewin Cymru, Kate Robertson fod yna bryderon am ddiogelwch Mr Davenport, a wnaeth arwain at ymgyrch gan dimau achub mynydd i chwilio amdano.
Roedd Heddlu'r Gogledd, yn ogystal â thimau achub mynydd, gwasanaeth awyr yr heddlu a gwylwyr y glannau yn rhan o’r ymdrechion i ddod o hyd iddo.
Cafodd ei ganfod gan dîm achub mynydd am 12.25 y diwrnod canlynol, ddydd Mawrth 30 Medi.
Dywedodd y crwner mai'r casgliad dros dro am yr hyn achosodd ei farwolaeth oedd ei fod wedi dioddef o sioc ar ôl colli gwaed, a achoswyd gan doriadau i’w fraich chwith.
Dywedodd Ms Robertson bod ei farwolaeth yn un annaturiol.
“Hoffwn gymryd y cyfle i rannu fy nghydymdeimladau gyda theulu a ffrindiau Kieran,” meddai.
Cafodd y cwest ei gau, gan arwain at ymchwiliadau pellach.
Os ydych chi wedi cael eich heffeithio gan gynnwys yr erthygl hon, mae cymorth ar gael yma.