
Maethu wedi 'siapio' bywydau teulu o Ben-y-bont
Mae rhieni o Ben-y-bont ar Ogwr yn dweud bod maethu babi bach wedi cael effaith “anhygoel” ar fywydau eu plant eu hunain.
A hithau’n Wythnos Plant Gofalwyr Maeth, mae Amy a Rhys yn annog rhieni eraill, a fyddai yn y gorffennol wedi peidio ag ystyried maethu gan fod plant eu hunain gyda nhw, i ailystyried.
Maen nhw’n dweud bod eu plant eu hunain wedi chwarae rhan hollbwysig yn y broses o faethu’r ferch fach, a’u bod nhw wedi manteisio o ganlyniad hefyd.
Fe benderfynodd y pâr faethu y llynedd fel ffordd o roi yn ôl i’w cymuned leol ym Mhen-y-bont.
Roedden nhw’n benderfynol o sicrhau bod eu plant, Georgia, 14, Grace, 12, a Gabi, wyth oed, yn rhan o’r broses ac yn dweud eu bod yn “mor falch” ohonynt am eu cymorth ar hyd y ffordd.
Mae Amy a Rhys wedi bod yn gofalu am yr aelod newydd o'u cartref ers mis Tachwedd 2024 ac maen nhw’n dweud bod y teulu cyfan wedi cael budd o'r holl brofiad.
Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd Rhys: “Mae wedi bod yn anhygoel. Mae cymorth y plant wedi bod y tu hwnt i unrhyw beth fydden ni wedi gallu dychmygu.
“Mae’r fechan wedi manteisio cymaint, mae’n hapus, mae’n ddiogel. Dyna’r oll oeddem ni eisiau sicrhau drwy faethu yn y lle cyntaf.”

'Mantais enfawr'
Mae’r cwpl yn dweud eu bod nhw wedi gweld newidiadau “mawr” a “phositif” yn eu plant eu hunain ers maethu.
“Yn y gorffennol byddwn ni ‘di stryglo i gael yr hynaf, [Georgia], allan o’i gwely yn y boreau,” medd Rhys.
“Ond ers edrych ar ôl ein plentyn maeth mae hi’n codi am 06.30 gan mai 07.00 ydy ei hamser hi gyda’r plentyn maeth… maen nhw’n chwarae ac yn cael brecwast gyda’i gilydd.”
Mae’r profiad wedi “siapio’r” teulu meddai’r rhieni, ac mae Georgia bellach yn awyddus i gael gyrfa fel gweithiwr cymdeithasol.
Maen nhw'n annog rhieni eraill i ystyried maethu er lles plant yn y system ofal a'u teuluoedd.
Dywedodd Amy: “Mae cael plant eich hunain yn fantais enfawr… dwi meddwl bod lot o bobl yn meddwl bod e’n anfantais ond mewn gwirionedd, mae’n rhywbeth positif dros ben."

'Darparu sicrwydd'
Fe ddaw anogaeth Amy a Rhys wrth i rwydwaith Maethu Cymru lansio platfform newydd ddydd Llun er mwyn helpu plant maeth i ddod i adnabod eu gofalwyr.
Mae’r platfform Big Welcome yn caniatáu i blant sydd ar fin symud at ofalwr maeth newydd i edrych trwy broffil y gofalwr cyn iddyn eu cyfarfod.
Mae hynny’n golygu eu bod yn gallu dod i adnabod pwy fydd yn eu cartref newydd, gan gynnwys aelodau’r teulu ac anifeiliaid anwes.
Dywedodd Alastair Cope, Pennaeth Maethu Cymru: “Dywedodd ein plant wrthym ni eu bod eisiau mwy o wybodaeth am ble roeddent yn mynd i fyw.
"Roeddent eisiau gwybod sut olwg fyddai ar eu hystafell wely, beth oedd anifail anwes y teulu a’r hyn mae'r gofalwyr maeth yn hoffi ei wneud yn eu hamser sbâr.
“Rydym eisoes wedi clywed gan ein gweithwyr cymdeithasol am y gwahaniaeth enfawr y mae hyn yn ei wneud. Mae'r Big Welcome yn darparu'r sicrwydd a'r cysylltiad sydd eu hangen i gychwyn perthynas yn y ffordd orau posibl.”