‘Gwyro ar draws y ffordd’ : Cyhuddo dyn o yfed a gyrru lori ar Ynys Môn

Y lori

Mae dyn o Loegr wedi colli ei drwydded dros dro ar ôl cael ei ddal yn “gwyro ar draws y ffordd” wrth yrru lori nwyddau trwm ar Ynys Môn.

Roedd y dyn 51 oed o Sir Norfolk wedi bod yn gyrru o gyfeiriad Caergybi ar hyd yr A55 nos Wener.

Dywedodd Heddlu’r Gogledd eu bod nhw wedi derbyn galwadau 999 gan aelodau o’r cyhoedd yn dweud bod y dyn wedi bod yn gwyro ar draws y ffordd ddeuol.

Fe gafodd ei stopio ger Pont Brittania am tua 20.00, meddai’r heddlu.

Cafodd ei gyhuddo o yrru dan ddylanwad alcohol ar ôl rhoi darlleniad o 123 (y terfyn cyfreithiol yw 35) ac fe gafodd ei gadw yn y ddalfa.

Fe ymddangosodd yn Llys Ynadon Yr Wyddgrug ddydd Sadwrn, lle cafodd waharddiad dros dro ac fe osodwyd amodau mechnïaeth llym arno, meddai’r heddlu.

Bydd ei ymddangosiad llys nesaf gerbron Ynadon Caernarfon ar 11 Tachwedd.

Dywedodd PC Kieran Davies o'r Uned Troseddau Ffyrdd: “Hoffem ddiolch i aelodau'r cyhoedd am ffonio'r heddlu.

“Mae gyrru dan ddylanwad alcohol yn peryglu bywydau pob defnyddiwr ffordd - ond mae gyrru cerbyd nwyddau trwm tra'n fwy na thair gwaith y terfyn cyfreithiol yn annealladwy.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.