Cyrraedd Cwpan y Byd nôl yn nwylo Cymru

Cyrraedd Cwpan y Byd nôl yn nwylo Cymru

Mae’r gobeithion o gyrraedd Cwpan y Byd 2026 nawr yn ôl yn nwylo Cymru wrth iddyn nhw groesawu Gwlad Belg i Gaerdydd nos Lun yn eu gêm ragbrofol ddiweddaraf yng Ngrŵp J.

Mae’r gêm gyfartal 0-0 rhwng Gwlad Belg a Gogledd Macedonia nos Wener yn golygu fod Cymru’n gallu ennill y grŵp os ydyn nhw’n ennill eu tair gêm sy’n weddill. 

Fe fyddai hynny’n golygu eu bod nhw’n cymhwyso’n awtomatig i’r gystadleuaeth yng Ngogledd America’r flwyddyn nesaf.

Curo Gwlad Belg fydd y gamp fwyaf, gyda’r gemau sy’n weddill oddi cartref yn Liechtenstein ar 15 Tachwedd a gartref yn erbyn Gogledd Macedonia ar 18 Tachwedd i orffen.

Fe gollodd Cymru yng Ngwlad Belg ym mis Mehefin o 4-3 ar ôl bod ar ei hôl hi o 3-0.

Fel rhan o’r paratoadau, fe gollodd Cymru o 3-0 mewn gêm gyfeillgar yn erbyn Lloegr nos Iau gyda’r prif hyfforddwr Craig Bellamy yn dweud ei fod wedi dysgu llawer o’r profiad. 

Dywedodd: “Fe wnes i wir fwynhau ac fe roddodd y teimlad i mi fod y tîm yma’n gallu mynd llawer ymhellach ac mae hynny yn fy nghyffroi.

“Ond mae’n rhaid i ni roi popeth. Mae’n rhaid i ni fod yn ymosodol, newid cyflymdra ac ymroi.

100 o gapiau

Fe fydd y gêm yn achlysur nodedig i gapten Cymru, Ben Davies fydd yn ennill ei 100fed cap dros ei wlad. Ond mae’r chwaraewr o Gwm Dulais yn poeni mwy am y canlyniad na’r garreg filltir bersonol. 

Dywedodd: "Canlyniad y gêm yw’r peth pwysicaf i fi am nawr ac os byddwn yn ennill bydd yn grêt i edrych nôl ar hyn.

"Byddwn yn neud popeth i geisio ennill ac roedd y perfformiad yn yr haf yn un dda ac wedi rhoi hyder i ni."

Wrth ystyried fod tynged Cymru nawr yn eu dwylo eu hunain, ychwanegodd Davies: “Mae hynny’n helpu ni lot ac yn dodi mwy o bwysau arnyn nhw ac yn rhoi rhwbeth extra i ni.

“Dwi wedi cael lot o brofiadau grêt yng nghrys Cymru a dwi’n gobeithio cario mlaen."

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi annog cefnogwyr i gyrraedd y gêm yn gynnar er mwyn cefnogi tri chwaraewr sydd wedi ennill 50 o gapiau dros Gymru. Fe fydd Chris Mepham, Kieffer Moore a Neco Williams yn cael eu gwobrwyo am 19:00 cyn y gic gyntaf am 19:45.

Yn ystod hanner amser fe fydd cyn-golwr Cymru Wayne Hennessey yn cael ei wobrwyo ar ôl iddo chwarae 109 o weithiau dros Gymru. Fe fydd yn cael ei anrhydeddu gan gyn-golwr arall i Gymru, Neville Southall.

Mae gan Gymru siawns fathamategol i ennill y grŵp hyd yn oed petae nhw’n colli nos Lun ond mae hynny’n anhebygol gan ystyried fod gan Wlad Belg a Gogledd Macedonia gemau’n weddill yn erbyn timoedd ar waelod y grŵp.

Y tîm sydd yn gorffen ar frig y grŵp fydd yn cymhwyso'n awtomatig ar gyfer Cwpan y Byd, tra bod yr ail safle yn sicrhau lle yn y gemau ail-gyfle ym mis Mawrth.

Hyd yn oed os yw Cymru yn gorffen yn y trydydd safle, fe fyddan nhw'n cymhwyso ar gyfer y gemau ail-gyfle gan eu bod wedi ennill eu grŵp yng Nghynghrair y Cenhedloedd y llynedd.

Fe fydd Cymru v Gwlad Belg yn fyw ar S4C nos Lun am 19:45

Llun: CBD Cymru

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.