‘Mewn limbo’: Tenantiaid ffermydd cyngor yn wynebu ‘dyfodol ansicr’

Ffermio
Heledd a Phil Dancer

“Mae’n rhoi ansicrwydd i fyny a dy’n ni ddim eisiau buddsoddi gormod mewn i’r lle rhag ofn, ynde?”

Mae Heledd a Phil Dancer (uchod) hanner ffordd drwy gytundeb tenantiaeth 12 mlynedd gyda Chyngor Powys.

Mae eu fferm Tan-y-ffordd, Cemaes ger Machynlleth yn un o 130 sydd gan Gyngor Powys - y nifer fwyaf yng Nghymru a’r bumed fwyaf drwy’r Deyrnas Unedig.

Ond mae yna bryder o fewn y diwydiant amaeth ym Mhowys am ddyfodol ffermydd cyngor y sir.

Mae’r cyngor eisoes wedi gwerthu rhywfaint o dir eleni, gydag 19 o denantiaid wedi cael llythyrau yn dweud bod eu tenantiaeth yn dod i ben.

“'Da ni hanner ffordd drwy ein tenantiaeth ni ar hyn o bryd - yn wreiddiol roedden ni i fod i gael wyth mlynedd wedyn,” meddai Phil Dancer wrth raglen Ffermio.

“Ond dy’n ni ddim yn siŵr iawn sut mae pethau yn mynd. Falle byddwn nhw yn troi rownd a ddim isho ni gymryd o 'mlaen.

“Allan o’r holl rent 'ma nhw’n gwneud, dwi’m yn deall - dylen nhw fod yn prynu ffermydd.

“Odd o chydig bach yn gywilydd stad y tŷ pan wnaethon ni symud mewn. Da ni wedi gwario £10,000 ar roi cegin i mewn.

“Mae angen iddyn nhw edrych ar ôl eu assets yn well.”

Image
Jake Berriman
Jake Berriman

‘Rhaid eu gwerthu’

Dywedodd arweinydd Cyngor Powys, Jake Berriman, mai’r nod ydi sicrhau bod gan y 10,000 acer o dir sydd gan y sir “ddyfodol cynaliadwy”.

Mae Cyngor Powys yn edrych ar ddyfodol eu stad ar hyn o bryd, gydag ymgynghoriad cyhoeddus i lunio polisi, newydd ddod i ben.

“Mae angen gwneud pethau yn wahanol yn y dyfodol i sut ydan ni wedi bod yn eu gwneud nhw hyd yma,” meddai Jake Berriman wrth raglen Ffermio.

“Rwy’n siŵr y bydd yna asedau yn parhau i gael eu gwerthu am ein bod ni’n edrych ar ein hasedau ar draws ein portffolio i gyd.

“Mae’n rhaid i ni edrych ar ein holl asedau, boed yn hen ysgolion neu'n safleoedd cyngor, tir agored, a byddan nhw'n cael eu gwerthu. 

“Bydd yn rhaid eu gwerthu er mwyn bodloni'r gofynion sydd gan y cyngor. 

“Os ydyn ni am barhau i adeiladu ysgolion a phontydd a gwelliannau priffyrdd, ac ati, mae angen i ni sicrhau ein bod ni'n rhoi trefn ar ein hasedau i gael trefn ar ein cyllid.”

Image
Wyn Williams
Wyn Williams

‘Ansicrwydd’

Mae yna ffermydd cyngor ym mhob rhan o Gymru sy’n rhoi cyfle i bobl ifanc gael mynediad at y diwydiant amaeth.

Mae gwaith ymchwil rhaglen Ffermio yn dangos gostyngiad o 17% yn nifer y ffermydd cyngor o’i gymharu â 10 mlynedd yn ôl.

Yn 2015 roedd 'na 482 o ffermydd, ond dim ond 400 sy’n weddill heddiw. Weithiau mae cynghorau yn uno ffermydd os ydyn nhw’n fach iawn, yn hytrach na’u gwerthu.

Ar ddiwedd 2023 roedd cynghorau Cymru yn cael incwm o £4.2 miliwn o ffermydd cyngor, gyda gwariant o £1.6m.

Dywedodd Wyn Williams, Cadeirydd UAC Sir Drefaldwyn, bod rhai tenantiaid wedi bod yno “ers blynyddoedd” a bod y newidiadau wedi creu “ansicrwydd”.

“Maen nhw angen paratoi - os nad ydyn nhw’n cael llwyddiant i aros ymlaen, mae’n rhaid iddyn nhw ffeindio rywle arall i fyw,” meddai wrth raglen Ffermio.

“Ac mae pobl ifanc sydd wedi dod i ddiwedd eu tenantiaeth , dy’n nhw ddim yn siŵr o’r gwaith yn y dyfodol.

“Mae’r 130 [o ffermydd] sydd gan y cyngor yn gwneud elw o 1m a 300 bob blwyddyn.

“Mae i gyd o’r tenantiaid yn talu cyngor treth, ac maen nhw’n edrych ar bethau fel ‘na.

“Beth sy’n poeni fi ydi mae gyda chi cymuned gyda lot o bobl ifanc. 

“Ac os ydyn nhw’n mynd i ddechrau gwerthu y tai ‘ma i ffwrdd ‘ar tir, y dyfodol i’r bobl ifanc i ddod i mewn i amaethyddiaeth yn mynd i gael ei gostwng eto.”

Image
Phil Dancer
Phil Dancer

‘Limbo’

Yn ôl ar fferm Tan-y-ffordd, mae Heledd Dancer yn dweud bod edrych am fferm arall “o hyd ar ein meddyliau ni”.

“Gan ein bod ni hanner ffordd drwodd rŵan ac efo’r ansicrwydd yma,” meddai.

“Mae’r holl beth yn reit unknown fel tasen nhw’n dweud.

“Da ni ddim wir yn gallu mynd ymlaen fel tasen ni’n licio gwneud. Da ni ddim eisiau rhoi mwy o arian mewn i rywbeth achos ma’n mynd i gymryd amser i ni gael yr amser yna nôl.

“Heb y certainty o beth sy’n dod nesa’ da ni bach mewn limbo.”

Dywedodd Phil, ei gŵr ei fod yn credu bod ffermydd cyngor yn parhau “yn bwysig iawn”.

“Dwi’n ffermwr cenhedlaeth gyntaf - ddim yn wreiddiol o deulu ffermio,” meddai Phil.

“Hwn ydi’r unig ffordd alla i ddod i mewn yn o lew o hawdd i allu ffarmio fy hunan ynde.

“A chael package o dŷ, a buildings a thir efo’i gilydd. Na’r unig ffordd gei di rili yn rhesymol heb gystadlu â’r sector breifat.

Ychwanegodd: “Beth sy’n bwysig ydi ein bod ni wedi gallu aros o fewn ein cymuned ein hunain.

“Da ni’n lwcus iawn o ffrindiau a ffermwyr da ni’n nabod drws nesa’.

“Da ni’m di gorfod prynu lot, da ni ‘di benthyg, so mae pethau bach fel yna yn adio fyny.

“Ond mae’n hanfodol i bobl ifanc fel ni ein bod ni’n gallu aros yn ein cymuned."

Meddai Heledd Dancer: “Da ni wedi benthyg lot o arian i allu dechrau i ffwrdd.

“Ac amser hefyd ynde, 'da ni’n dau yn gweithio llawn amser oddi ar y ffarm hefyd i gadw pethau fynd. 

“Mae hynna’n bwysig iawn i ni achos sa’ ni dal methu bod yma oni bai ein bod ni’n dau yn gweithio.

“Felly lot o’r amser da ni’n gweithio 24/7 rhwng bob dim - rhwng y ffarmio a'r gwaith.

“Mae bob ffarmwr yn gweithio fel yna, ond da ni’n rhoi bob dim mewn idda fo.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.