Dechrau rhyddhau gwystlon Israelaidd a charcharorion Palesteinaidd
Mae gwystlon Israelaidd a charcharorion Palesteinaidd yn cael eu rhyddhau yn Gaza fore Llun fel rhan o gadoediad heddwch, wrth i'r Arlywydd Donald Trump ddatgan bod y "rhyfel ar ben".
Mae Hamas yn dweud bod yr holl wystlon sydd dal yn fyw wedi eu rhyddhau sef 20 ohonynt. Maent yn cynnwys yr efeilliaid Ziv a Gali Berman. Mae disgwyl i gyrff y 28 arall gael eu rhyddhau yn ystod yr oriau nesaf hefyd.
Fe gafodd y gwystlon eu cipio yn ystod ymosodiad Hamas ar y 7fed o Hydref yn 2023.
Maent wedi cael eu trosglwyddo i'r Groes Goch a'u rhoi i luoedd milwrol Israel. Yn Re'im, sydd yn Ne Israel byddant yn cael gweld eu teuluoedd unwaith eto ac yn cael "asesiad meddygol cychwynnol".
Yn gyfnewid am y gwystlon mae disgwyl i fwy na 1,700 o Balesteinaid gael eu rhyddhau o'r carchar, sy'n cynnwys 22 o blant.
Mae 250 o'r rhain wedi cael dedfryd carchar am oes. Mae adroddiadau gan y cyfryngau yn Israel yn dweud bod paratoadau yn cael eu gwneud i symud y carcharorion o garchar Ofer yn y lan orllewinol.
Er trafodaethau funud olaf ddydd Sul y gred yw nad yw'r rhain yn cynnwys enwau saith o bobl sydd â phroffil uchel yr oedd Hamas eisiau i gael eu rhyddhau. Yn eu plith oedd Marwan Barghouti, sydd yn cael ei weld fel Mandela y Palasteiniaid allai uno'r Palesteiniad yn Gaza a'r lan orllewinol.
Mae torfeydd mawr wedi bod yn ymgynnull yn Tel Aviv er mwyn croesawu rhyddhau'r gwystlon.
Mae Arlywydd America, Donald Trump wedi cyrraedd Israel. Yno mae disgwyl iddo annerch y senedd, y Knesset a chwrdd â theuluoedd rhai o'r gwystlon.
Bydd wedyn yn teithio i'r Aifft i ymuno gydag arweinwyr eraill i gofnodi cadoediad Gaza. Ymhlith yr arweinwyr eraill mae Prif Weinidog Prydain, Syr Keir Starmer.
Tra bod rhan gyntaf y cytundeb heddwch yn cael ei weithredu dyw'r ail ran ddim wedi ei gytuno eto.
Daw'r cytundeb wedi rhyfel yn Gaza a ddechreuodd yn sgil ymosodiad Hamas yn ne Israel yn 2023. Ers hynny mae mwy na 67,000 o Balesteiniad wedi eu lladd gan luoedd Israel, gan gynnwys mwy na 18,000 o blant, yn ôl y weinyddiaeth iechyd sydd yn cael ei rhedeg gan Hamas.
Llun: Reuters