Disgwyl ciwiau hir wrth hedfan i rai o wledydd y cyfandir yn sgil system newydd
Mae teithwyr o'r DU sydd yn ymweld â gwledydd fel Sbaen, Portiwgal ac Yr Eidal yn cael eu hannog i baratoi ar gyfer ciwiau hir wrth i system ffiniau newydd yr Undeb Ewropeaidd ddod i rym.
Roedd adroddiadau am deithwyr yn ciwio am rai oriau ym maes awyr Prag yn Tsiecia dros y penwythnos wrth i'r newidiadau gael eu cyflwyno yno.
Mae'r system yn ymwneud â chymryd olion bysedd a thynnu lluniau o rhai teithwyr o wledydd trydydd parti fel Prydain er mwyn gallu cael mynediad i ardal Schengen. Ardal yw hon sydd yn cynnwys 29 o wledydd Ewropeaidd, y mwyafrif yn yr UE.
Ar gyfer y rhan fwyaf o deithwyr o Brydain bydd y broses yn digwydd mewn meysydd awyr tramor.
Y cyngor yw bod teithwyr yn neilltuo pedair awr os ydyn nhw yn mynd i feysydd awyr yn Ewrop sydd wedi cyflwyno y newidiadau.
Mae'r Swyddfa Gartref wedi dweud mai dim ond "munud neu ddau" y dylai'r mesurau newydd gymryd ond maen nhw wedi rhybuddio y gallai arwain at "amseroedd aros hirach ar adegau prysur".
Bydd teithwyr sydd yn defnyddio gwasanaethau rhyngwladol o orsaf drên St Pancras Llundain, porthladd Dover a'r Eurotunnel yn Folkestone yn gorfod gwneud y gwiriadau newydd ym Mhrydain. Mae ciosgau newydd wedi eu gosod yn y lleoliadau hyn ond dim ond rhai teithwyr fydd yn gorfod eu defnyddio ers dydd Sul.
Mae'r Undeb Ewropeaidd yn dechrau'r system newydd fesul cam gyda disgwyl i'r system lawn fod yn ei lle erbyn Ebrill y flwyddyn nesaf.
Dywedodd Michael O’Leary, prif weithredwr Ryanair, wrth bapur newydd The Independent: “Rwy’n eithaf sicr y bydd pethau’n mynd o chwith.”
Ond ychwanegodd: “Rydym yn symud i gyfnod y gaeaf, felly mae llawer llai o bwysau, ond rwy’n credu y bydd yn anwastad gyda rhai cyfnodau prysur drwy gydol y gaeaf.”
Llun: Ciwiau hir yn Heathrow wedi ymosodiad seibr honedig ym mis Medi, Maja Smiejkowska/PA Wire.