Dod â rhyngrwyd 'araf' i ben ym Methesda a chymunedau eraill

Ceblau rhyngrwyd

Mae Bethesda a Llanwnda yng Ngwynedd ymysg cymunedau lle y bydd rhaid i gwsmeriaid symud o gysylltiad copr ‘araf’ i ryngrwyd ffibr ‘cyflym iawn’ (ultrafast) meddai cwmni Openreach.

Maen nhw wedi cyhoeddi rhestr o 94 o gymunedau ar draws y DU lle y bydd y cysylltiad copr yn dod i ben wrth iddyn nhw gyflwyno cysylltiadau ffibr.

Mae’r cymunedau yng Nghymru yn cynnwys Pentraeth ar Ynys Môn, Botwnnog ac Abergynolwyn  yng Ngwynedd, Tynygroes ym Mae Colwyn, Llanpumsaint yn Sir Gaerfyrddin, Glantwymyn ym Mhowys, Penarth ym Mro Morgannwg, Reynoldston yng Ngŵyr ac Abercynon yn Rhondda Cynon Taf.

Mae Openreach yn rhoi rhybudd blwyddyn i ddarparwyr rhyngrwyd fel BT, Sky, TalkTalk a Vodafone roi’r gorau i gynnig gwasanaethau analog traddodiadol.

Bydd ffibr llawn ar gael i'r rhan fwyaf o'r adeiladau yn y lleoliadau cyfnewid sydd wedi eu rhestru, meddai Openreach.

Dywedodd James Lilley, un o gyfarwyddwyr Openreach eu bod nhw am “annog pobl i uwchraddio lle gall mwyafrif gael mynediad i’n rhwydwaith newydd”.

“Nid yw’n gwneud synnwyr, yn weithredol nac yn fasnachol, i gadw’r hen rwydwaith copr a’n rhwydwaith ffibr newydd ochr yn ochr â’i gilydd,” meddai.

“Wrth i allu copr i gefnogi cyfathrebu modern ddirywio, y ffocws uniongyrchol yw symud pobl ymlaen at dechnolegau newydd, sy’n barod ar gyfer y dyfodol.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.