Sir Gâr: Heddlu’n stopio plentyn 15 oedd yn gyrru car
Mae'r heddlu wedi dweud eu bod nhw wedi cael eu synnu wrth stopio car yn Sir Gaerfyrddin a darganfod mai plentyn 15 oed oedd wrth y llyw.
Dywedodd Heddlu Caerfyrddin, Hendy-gwyn a Sanclêr eu bod nhw wedi stopio y car ddydd Sul.
“Stopiodd Swyddogion Plismona Ffyrdd gar heddiw yn Sir Gaerfyrddin - roedd y gyrrwr yn cael gwers yrru yn 15 oed!” meddai llefarydd ar ran Heddlu Dyfed-Powys.
“Fe gafodd y cerbyd ei feddiannu, ac fe gafodd y gyrrwr a'r teithiwr eu riportio am nifer o droseddau gyrru.
“Mae rhai gwersi yn gallu aros.”