Starmer: 'DU i chwarae rôl allweddol wrth ail adeiladu Gaza'
Bydd y Deyrnas Unedig yn chwarae rôl allweddol wrth ailadeiladu Gaza, yn ôl Syr Keir Starmer.
Mae e wedi dweud hynny wrth iddo baratoi i fynd i uwch gynhadledd yn yr Aifft ddydd Llun, i gofnodi cadoediad Gaza a gafodd ei gydlynu gan yr Arlywydd Trump.
Yn y "seremoni arwyddo" mae disgwyl i Brif Weinidog y Deyrnas Unedig nodi fod hwn yn "gam cyntaf allweddol" yn yr ymdrechion i ddod â'r rhyfel i ben yn Gaza, tra'n annog i'r ail gam gael ei weithredu yn llwyr.
Bydd Arlywydd America ac Arlywydd Yr Aifft Abdel Fattah El-Sisi yn cyd gadeirio'r uwch gynhadledd.
Mae disgwyl i Syr Keir Starmer hefyd ganmol Donald Trump ac ymdrechion diplomyddol Yr Aifft, Qatar a Thwrci yn y seremoni yn Sharm El Sheikh.
Mae e wedi dweud y bydd y DU yn cefnogi camau nesaf y trafodaethau er mwyn sicrhau fod bobl ar bob ochr yn medru ailadeiladu eu bywydau mewn amgylchedd ddiogel.
Cadarnhaodd y DU a gwledydd yn cynnwys Ffrainc, Canada ac Awstralia fis diwethaf eu bod yn cydnabod gwladwriaeth Balesteinaidd – heb arweinyddiaeth Hamas wrth y llyw.
Ac mae hynny wedi cythruddo Israel.
Dywedodd Gweindog Cabinet San Steffan Bridget Phillipson ddydd Sul fod y DU wedi chwarae "rôl allweddol" wrth sicrhau cadoediad Gaza.
Wfftio hynny wnaeth dirprwy weinidog tramor Israel, Sharren Haskel, a dywedodd llysgennad America yn Israel bod sylwadau Ms Phillipson yn wallgof.
Bydd Syr Keir Starmer hefyd yn cyhoeddi ddydd Llun y bydd y DU yn cyfrannu £20 miliwn ar gyfer gwasanaethau dŵr a glendid ar Lain Gaza.