Dim 'maddeuant' i Lafur am gau ffwrneisi chwyth Port Talbot, medd arweinydd Plaid Cymru.
Mae Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth wedi dweud na fydd “maddeuant” yng Nghymru i’r Blaid Lafur am gau ffwrnesi chwyth gwaith dur Port Talbot.
Wrth siarad ar Sunday Morning With Trevor Phillips ar sianel deledu Sky, dywedodd Rhun ap Iorwerth: “Dydw i ddim yn credu ein bod ni wedi gweld unrhyw beth yng ngweithredoedd Keir Starmer sy’n gwneud i unrhyw un awgrymu bod ganddo unrhyw ddiddordeb mewn gwthio Cymru ymlaen, a chefnogi anghenion penodol Cymru.
Ychwanegodd: “Port Talbot fyddai efallai’r enghraifft fwyaf amlwg lle collon ni gapasiti gwneud dur craidd yng ngwaith dur Port Talbot, dicter go iawn am hynny, proses a ddechreuodd gan y Ceidwadwyr, wrth gwrs, ac a gafodd ei gorffen gan Lafur.
“Ar yr un pryd roedden nhw’n gadael i Bort Talbot fynd, fe benderfynon nhw fod Scunthorpe yn haeddu cymorth y Llywodraeth i gamu i mewn i achub gwneud dur.
“Nawr fe gollon nhw’r cyfle hwnnw.
“Ni fydd hynny'n cael ei anghofio ac ni fydd maddeuant yng Nghymru am wneud hynny.”
Fe gaeodd ffwrnais chwyth olaf Port Talbot ym mis Medi 2024, gyda 2,500 o weithwyr yn colli eu swyddi yn sgil hynny.
Mae rhai ASau wedi dweud fod gweithwyr yn ne Cymru wedi cael eu gadael i lawr o gymharu â'r rhai sydd wedi cadw eu swyddi yn Scunthorpe, Sir Lincoln.
Fe wnaeth gweinidogion gymryd rheolaeth o'r gwaith dur yn Scunthorpe i atal cau'r ffwrneisi chwyth yno.
Dywedodd Llywodraeth y DU fod y gweithfeydd dur mewn sefyllfaoedd gwahanol.
Mae’r gwaith wedi dechrau i adeiladu ffwrnais arc drydan newydd ym Mhort Talbot.