Teyrngedau i’r actores Diane Keaton, sydd wedi marw yn 79 oed
Mae teyrngedau wedi eu rhoi i’r actores Diane Keaton sydd wedi marw yn 79 oed.
Roedd Keaton, a gafodd ei geni yn Los Angeles, yn enwog am ei rôl fel Kay Adams-Corleone yn ffilmiau The Godfather.
Fe enillodd Oscar am yr Actores Orau am ei rhan yn y ffilm Annie Hall yn 1978. Roedd hi hefyd yn adnabyddus am serennu mewn ffilmiau gan gynnwys Father of the Bride a First Wives Club.
Ar gyfer Annie Hall, enillodd hefyd Wobr Golden Globe am yr Actores Orau mewn Comedi neu Ffilm Gerdd a Gwobr BAFTA am yr Actores Orau mewn Prif Rôl.
Drwy gydol ei gyrfa dros bum degawd, serennodd Keaton mewn dwsinau o ffilmiau eraill gan gynnwys The Family Stone, Because I Said So, And So It Goes, yn ogystal â nifer o ffilmiau Woody Allen eraill, fel Play It Again, Sam, Sleeper, Love and Death a Manhattan.
Fe wnaeth hi hefyd gyfarwyddo nifer o ffilmiau.
Dywedodd ei chyd-seren yn First Wives Club, Bette Midler: "Mae'r Diane Keaton wych, hardd, eithriadol wedi marw. Ni allaf ddweud wrthych pa mor annioddefol o drist mae hyn yn fy ngwneud i.
"Roedd hi'n ddoniol iawn, yn gwbl wreiddiol, ac yn gwbl heb dwyll, nac unrhyw elfen gystadleuol y byddai rhywun wedi'i ddisgwyl gan seren o'r fath. Yr hyn a welsoch, oedd pwy oedd hi ... o, la, lala!"
Dywedodd Goldie Hawn, ei chyd-seren yn First Wives Club, fod Diane Keaton wedi gadael "llwybr o lwch tylwyth teg, yn llawn gronynnau o olau ac atgofion y tu hwnt i ddychymyg".
Dywedodd Hawn: "Sut ydym ni'n ffarwelio? Pa eiriau all ddod i'r meddwl pan fydd eich calon wedi torri? Doeddech chi erioed yn hoffi canmoliaeth, mor ostyngedig, ond nawr ni allwch ddweud wrtha i am 'ddistewi' cariad. Nid oedd, ac ni fydd, neb fel chi."