Dyn wedi marw mewn gwrthdrawiad ar yr A55
Mae dyn wedi marw mewn gwrthdrawiad ar yr A55 yn Helygain, Sir y Fflint yn oriau mân fore dydd Sadwrn.
Dywedodd Heddlu’r Gogledd eu bod nhw wedi derbyn nifer o adroddiadau am wrthdrawiad un cerbyd wrth gyffordd 32 ar ffordd ddwyreiniol yr A55 yn ymwneud â pickup Ford Ranger.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw, ond roedd gyrrwr wedi marw yn y fan a'r lle.
Dywedodd y Ditectif Rhingyll Katie Davies: “Mae ein meddyliau gyda theulu a ffrindiau'r dyn yn ystod yr amser anodd hwn. Byddant nawr yn cael eu cefnogi gan Swyddog Cyswllt Teulu sydd wedi'i hyfforddi'n arbennig.
“Mae ein hymholiadau ar y gweill, ac rydym yn annog unrhyw un a allai fod wedi gweld y gwrthdrawiad a sydd heb siarad â ni eto, neu unrhyw un a oedd yn teithio ar hyd yr A55 ger ardal Helygain ac a allai fod â lluniau camera dashfwrdd, i gysylltu â ni cyn gynted â phosibl.”
Cafodd y ffordd ei chau er mwyn i swyddogion o'r Uned Ymchwilio i Wrthdrawiadau Fforensig gynnal eu hymholiadau cychwynnol, ac ail agorodd yr A55 am tua 08:30.
Mae’r llu yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu gan ddyfynnu'r rhif cyfeirnod 25000835732.