'Neilltuo pedair awr' ar gyfer archwiliadau newydd wrth deithio dramor
Mae rhybudd i deithwyr o'r Deyrnas Unedig sy'n ymweld â gwledydd fel Sbaen, Portiwgal a'r Eidal y bydd yn rhaid iddyn nhw aros am bedair awr o bosibl, cyn cael archwiliad newydd mewn meysydd awyr.
Bydd y system newydd gan yr Undeb Ewropeaidd yn dod i rym ddydd Sul.
O dan y system fynediad newydd, bydd angen cofrestru olion bysedd teithwyr a thynnu eu llun er mwyn cael mynediad i'r ardal Schengen, sy'n cynnwys 29 o wledydd Ewropeaidd, yn bennaf yn yr Undeb Ewropeaidd.
Ar gyfer y rhan fwyaf o deithwyr o'r Deyrnas Unedig, bydd y broses archwilio newydd yn digwydd mewn meysydd awyr dramor.
Dywedodd Julia Lo Bue-Said, prif weithredwr Advantage Travel Partnership, sy'n rhwydwaith o gwmniau teithio annibynnol: “Ar gyfer y prif feysydd awyr yn ne Ewrop, rydym yn argymell bod teithwyr yn neilltuo pedair awr, yn ystod dyddiau cynnar y system newydd.”
Rhubuddiodd y bydd yna oedi, yn enwedig pan fo sawl hediad yn cyrraedd ar yr un adeg.
Ychwanegodd: “Dylai'r sefyllfa sefydlogi yn ystod yr wythnosau nesaf, wrth i weithwyr a theithwyr ddod yn gyfarwydd â'r drefn newydd.”
Yn ôl Rory Boland, golygydd cylchgrawn Which? Travel, dylai teithwyr archebu eu tacsi neu gludiant arall dramor yn hwyrach, oherwydd yr oedi posibl yn y meysydd awyr.
Yn ôl y Swyddfa Gartref, dylai'r archwiliadau ychwanegol gymryd “munud neu ddwy yn unig” i'w cwblhau, ond maen nhw'n rhybuddio y bydd angen aros am gyfnodau hirach o bosibl ar adegau prysur.
Bydd teithwyr o'r Deyrnas Unedig sy'n defnyddio gwasanaeth Eurostar o orsaf reilffordd St Pancras yn Llundain, yn cwblhau eu harchwiliadau yn y Deyrnas Unedig. A dyna fydd y drefn hefyd ym Mhorthladd Dover a therfynfa'r twnel yn Folkestone.
Mae ciosgs newydd wedi eu gosod yn y lleoliadau hynny, ond dim ond rhai teithwyr fydd yn gorfod eu defnyddio o ddydd Sul.
Mae'r trefniant newydd yn digwydd yn raddol a bydd angen iddo fod yn gwbl weithredol erbyn 10 Ebrill y flwyddyn nesaf.
Yn y pendraw, ni fydd angen swyddogion i roi stamp ar basport, pan fydd y system newydd hon wedi ei chyflwyno'n llawn.