Gwasanaeth trên newydd rhwng gogledd Cymru a Lerpwl

Tram 398

Fe fydd gwasanaeth trên uniongyrchol newydd yn rhedeg o Landudno i Lerpwl o fis Mai 2026 ymlaen.

Dywedodd Llywodreath Cymru “fel rhan o Rwydwaith y Gogledd bydd gwella'r cysylltiadau trafnidiaeth yn cryfhau eto y berthynas agos rhwng y Gogledd a Glannau Mersi”.

Nod Rhwydwaith y Gogledd medd Llywodraeth Cymru yw “datblygu rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus integredig, rheolaidd ar gyfer Gogledd Cymru, gyda'r metro yn galon iddo, gyda chysylltiadau i Lannau Mersi, Swydd Gaer a thu hwnt”.

Dywedodd y Prif Weinidog Eluned Morgan: "Mae'r Gogledd yn rhannu hanes hir â Lerpwl a bydd gwella'r cysylltiadau trafnidiaeth hyn yn cryfhau'r berthynas honno ymhellach. Bydd hefyd yn hwb i'r economi."

Dywedodd Maer Dinas-ranbarth Lerpwl Steve Rotheram: "Bydd y cysylltiadau newydd hyn yn helpu i ddod â phobl o bob ochr y ffin yn nes at gyfleoedd – boed hynny'n swydd newydd, ymweld â theulu, neu fynd i'n stadiwm pêl-droed, yr Eisteddfod neu noson allan yn y dref.”

Fe fydd gwaith yn ardal Wrecsam hefyd yn cynyddu’r capasiti ar gyfer nwyddau a theithwyr rhwng y ddinas a Lerpwl.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.