Corff dynes yn cael ei ddarganfod mewn afon yn Llangollen
Cadarnhaodd Heddlu Gogledd Cymru fod corff dynes wedi ei ddarganfod yn afon Dyfrdwy yn Llangollen fore Sadwrn.
Yn ôl y llu, daeth galwad am 08:18, yn nodi bod corff wedi ei ddarganfod yn y dŵr.
Fe aeth plismyn yno yn ogystal â gwasanaethau argyfwng eraill yn cynnwys y gwasanaeth tân.
Dywedodd yr Arolygydd Andy Kirkham o Heddlu Gogledd Cymru: "Mae ein meddyliau gyda theulu'r ddynes ar yr adeg anodd yma
"Rydym yn gwerthfawrogi fod y digwyddiad hwn wedi amharu ar drigolion y dref ac ymwelwyr heddiw, gan fod gŵyl fwyd y dref yn cael ei chynnal.
"Hoffem ddiolch i bawb, yn cynnwys busnesau lleol, am eu hamynedd wrth i ni ymdrin â'r digwyddiad trasig hwn
"Mae ymchwiliad ar y gweill er mwyn adnabod y ddynes yn ffurfiol"
Ychwanegodd yr heddlu nad yw achos ei marwolaeth yn glir eto, ond y gred yw nad yw'r amgylchiadau'n amheus.
Mae'r crwner wedi ei hysbysu.