Cyhoeddi adolygiad fforensig i lofruddiaethau mam a'i merched
Mae Heddlu'r De wedi cyhoeddi eu bod yn cynnal adolygiad fforensig i lofruddiaethau mam a'i dwy ferch ym 1995.
Bu farw Diane Jones, 21 oed, a'i merched, Shauna Hibberd, dwy oed a Sarah-Jane Hibberd, 13 mis oed, mewn tân bwriadol yn eu tŷ ar ystad y Gurnos ar 11 Hydref 1995.
Fe gafodd y tair eu darganfod mewn ystafell wely gan y gwasanaethau brys.
30 mlynedd wedi'r llofruddiaethau, mae Uned Adolygu Troseddau Mawr Heddlu De Cymru yn gobeithio y bydd datblygiadau mewn technoleg fforensig yn darparu'r datblygiad sydd ei angen i ddarganfod pwy oedd yn gyfrifol.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Gareth Davies: "Ar yr adeg yma, fe wnaeth yr achos trasig yma gipio bywydau diniwed mam a'i dau blentyn, gan ysgwyd cymuned y Gurnos, ac mae wedi taflu cysgod dros y gymuned ers hynny.
"Mae teulu Diane wedi cael eu gadael heb atebion am ddegawdau ac wedi dioddef o ganlyniad."
Ychwanegodd mai gobaith y llu ydy y byddant yn gallu dod o hyd i dystiolaeth newydd fydd yn arwain at ddarganfod pwy oedd yn gyfrifol.
"Rwyf yn eithaf hyderus fod rhywun allan yna â gwybodaeth, ond am ba bynnag reswm, maen nhw wedi penderfynu ei gadw i'w hunain. "
'Chwalu yn deilchion'
Mae teuluoedd y dioddefwyr yn cefnogi'r adolygiad newydd.
Dywedodd chwaer Diane Jones, Mary: "Ar 11 Hydref 1995, fe wnaeth fy mywyd i chwalu yn deilchion. Mae hi wedi bod yn 30 mlynedd ond fel teulu, rydym yn parhau i fyw y hunllef yma fel pe bai ond wedi digwydd ddoe.
"Nid yn unig wnaethon ni golli chwaer a'n nithoedd, fe wnaethon ni hefyd golli ein rhieni. Fe wnaeth o dorri eu calonnau a doedden nhw byth yr un fath."
Ychwanegodd: "Bu farw fy nhad, John, drwy hunanladdiad yn 2003, yn 52 - doedd o methu byw hebddyn nhw. Roedd fy mam, Myra, ar ôl colli ei merch, wyresau a'i gŵr, yn brwydro yn gryf am gyfiawnder, ond fe gafodd ddiagnosis o ganser a bu farw yn sydyn yn 62.
"Fel teulu, ni fyddwn byth yn rhoi’r gorau i ymladd dros gyfiawnder. Ni chafodd fy mam a fy nhad weld cyfiawnder ond rwy’n gobeithio y byddaf yn gweld cyfiawnder ar eu cyfer nhw."
Mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw un â gwybodaeth i gysylltu â nhw gan ddefnyddio'r cyfeirnod 2200348104.