Adroddiadau bod Hamas yn casglu gwystlon wrth i Balesteiniaid ddychwelyd i ogledd Llain Gaza
Mae Arlywydd yr Unol Daleithiau Donald Trump wedi dweud bod Hamas yn casglu gwystlon Israel "nawr", gan ychwanegu ei fod yn hyderus y bydd y cytundeb cadoediad yn parhau yn ei le.
Mae miloedd o Balesteiniaid wedi dechrau dychwelyd i ogledd Llain Gaza, gan dreulio eu noson gyntaf yno ers i'r cytundeb cadoediad ddod i rym ddydd Gwener.
Mae rhannau helaeth o ogledd Llain Gaza wedi'u dinistrio ar ôl dwy flynedd o ryfel, gyda bron i dri chwarter o adeiladau Dinas Gaza wedi'u difrodi
Mae maint y difrod wedi dod i'r amlwg wrth i fyddin Israel dynnu'n ôl o rannau o Lain Gaza.
Mae gan Hamas tan 12:00 amser lleol ddydd Llun i ryddhau'r gwystlon - tra bod Israel ar fin rhyddhau tua 250 o garcharorion Palesteinaidd a 1,700 o bobl sy'n cael eu dal yn Gaza.
Fe wnaeth Pwyllgor Rhyngwladol y Groes Goch hwyluso'r broses o ryddhau gwystlon Israelaidd yn y gorffennol
Mae'r pwyllgor yn dweud eu bod yn barod i gefnogi'r cytundeb trwy helpu "i ddychwelyd gwystlon a charcharorion i'w teuluoedd".
Dywedodd Pwyllgor y Groes Goch bod eu timau ar Lain Gaza, Israel a'r Lan Orllewinol "hefyd yn barod i helpu i ddychwelyd gweddillion dynol fel y gall teuluoedd alaru am eu hanwyliaid gydag urddas".